Arestio pedwar dyn ar ôl i ddynes gael ei thrywanu
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar dyn wedi cael eu harestio ar ôl i ddynes 40 oed gael ei thrywanu yng Nghaerdydd.
Cafodd yr heddlu eu galw i Heol Longcross yn ardal Adamsdown am 19:40 nos Wener yn dilyn adroddiadau o ymosodiad.
Mae'r ddynes, wnaeth ddioddef anaf i'w choes, yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod y pedwar dyn - 23, 25, 27 a 42 oed - yn parhau yn y ddalfa, a'u bod yn adnabod y ddynes.
Mae'r heddlu yn annog unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â'r llu.