£1,500 am astudio rhan o gwrs gradd yn y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Nod y coleg yw "cefnogi mwy o siaradwyr Cymraeg i ddewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg"

Bydd pob myfyriwr sy'n astudio rhan o'u cwrs gradd drwy gyfrwng y Gymraeg yn gymwys am grant o hyd at £1,500 o fis Medi ymlaen.

Dywedodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol y bydd unrhyw fyfyriwr sy'n dewis astudio o leiaf 40 credyd yn y Gymraeg yn gallu gwneud cais am ysgoloriaeth o £500 y flwyddyn, neu £1,500 dros dair blynedd.

Fel arfer mae'r coleg yn cynnig ysgoloriaeth cymhelliant i hyd at 200 o fyfyrwyr bob blwyddyn, ond mewn ymateb i argyfwng Covid-19, mae'r coleg wedi penderfynu ymestyn y cynllun ar gyfer pob myfyriwr cymwys.

Dywedodd y coleg bod hynny ar gyfer unrhyw bwnc, gan gynnwys y Gymraeg a chyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon israddedig.

Gobaith y coleg yw y bydd yr ysgoloriaeth yn "cefnogi mwy o siaradwyr Cymraeg i ddewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg" ac annog prifysgolion i ddarparu cyrsiau Cymraeg ar gyfer cynifer o fyfyrwyr â phosib.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd unrhyw fyfyriwr sy'n dewis astudio o leiaf 40 credyd yn y Gymraeg yn gymwys am ysgoloriaeth

Dywedodd cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Dr Dafydd Trystan: "Wrth ymateb i argyfwng Covid-19 mae'r coleg wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi myfyrwyr a phrifysgolion.

"Mae'n bleser gennym felly ymestyn y cynllun ysgoloriaeth cymhelliant ac anogwn unrhyw un sy'n ystyried dechrau cwrs prifysgol yng Nghymru ym mis Medi i astudio'n Gymraeg ac i ymgeisio am ysgoloriaeth."

Wrth groesawu'r cynllun ychwanegodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: "Mae'n newyddion gwych bod y coleg yn ehangu yn sylweddol, nifer yr ysgoloriaethau i fyfyrwyr ar gyfer mis Medi, gan gynnwys israddedigion Addysg Gychwynnol Athrawon a Chymraeg.

"Rydym angen llawer rhagor o athrawon hyderus dwyieithog i ddiwallu'r twf mewn addysg Gymraeg ac i gefnogi'r cwricwlwm newydd o 2022 ymlaen."