Hofrennydd yn achub dyn o greigiau ger Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Tan Y BwlchFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y dyn ei ddarganfod ger Traeth Tan-y-Bwlch, i'r de o Aberystwyth

Mae dyn aeth yn sownd ar greigiau ar arfordir Ceredigion wedi cael ei winsio i ddiogelwch gan hofrennydd.

Cafodd ei ddarganfod ger Traeth Tan-y-Bwlch, i'r de o Aberystwyth, am 19:00 nos Sadwrn.

Fe gafodd y dyn ei dynnu i ddiogelwch gan hofrennydd gwylwyr y glannau wedi iddo gael ei weld mewn trafferthion gan griw bad achub RNLI Aberystwyth.

Roedd criwiau gwylwyr y glannau Borth ac Aberystwyth hefyd yn rhan o'r ymgyrch.