Cyhuddo dyn o anafu dynes yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo dyn o anafu yn dilyn ymchwiliad i ymosodiad ar Heol Longcross yn ardal Adamsdown o Gaerdydd ar nos Wener, 5 Mehefin.

Bydd Jeremy Lenohin, sydd yn dod o Lundain, yn ymddangos o flaen ynadon yng Nghaerdydd yn ddiweddarach.

Mae tri dyn arall, sydd yn 42, 25, a 23 oed, wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau'r heddlu'n parhau.

Anafiadau

Mae dynes 40 oed yn parhau yn yr ysbyty ar ôl dioddef anafiadau yn ystod yr ymosodiad, ond nid yw'r anafiadau'n rhai sydd yn debygol o beryglu ei bywyd, medd yr heddlu.

Nid yw swyddogion yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad. Mae'r heddlu yn annog unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â'r llu drwy ffonio 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod *198203.

Mae'r heddlu yn annog unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â'r llu.