Cyhoeddi enw dynes fu farw ar ôl tân ger Dolgellau
- Cyhoeddwyd
Mae'r crwner wedi cyhoeddi enw dynes fu farw wedi tân mewn eiddo yn ardal Bontddu ger Dolgellau.
Roedd Yung-Sun Tong yn 70 oed ac yn hanu o Ashtead yn Surrey.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i'r adeilad ar yr A496 fore Gwener.
Cafodd ei hachub o'r adeilad - cyn-westy Neuadd Bontddu - gan ddiffoddwyr tân ond bu farw yn y fan a'r lle.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad oedd achos y tân yn un amheus.
Cadarnhaodd y crwner y byddai archwiliad post mortem yn cael ei gynnal yr wythnos hon.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2020