Cyngor i drafod cofeb 'bwystfil' caethwasiaeth

  • Cyhoeddwyd
CaerfyrddinFfynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Yr obelisg i Picton yng Nghaerfyrddin

Mae cyngor sir yn dweud y byddan nhw'n trafod dyfodol obelisg i gofio am Syr Thomas Picton yn nhref Caerfyrddin 'mewn undod a'r holl rai sy'n brwydro yn erbyn gormes.'

Mae Picton wedi cael ei ddisgrifio fel 'bwystfil creulon oedd yn cam-drin caethweision.'

Ddoe fe ddywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod yn cefnogi'r alwad i symud cerflun Picton o'i safle yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Roedd y cyn-filwr wedi llywodraethu dros ynys Trinidad o 1797 i 1803 ac wedi rhoi cosbau llymach i'r caethweision a oedd yn gweithio yn y caeau siwgr.

Nawr mae arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Emlyn Dole, yn dweud bod trafodaeth am yr obelisg yng Nghaerfyrddin hefyd yn amserol.

"Rydym yn gwneud hyn i ddod a'r mater i siambr y cyngor mor fuan â phosib lle gallwn ni drafod ein teimladau mewn lle cyhoeddus er mwyn dod i benderfyniad ar y cyd i gymryd y camau priodol ar ôl hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cerflun Edward Colston ei lusgo drwy Fryste cyn ei daflu i'r harbwr

Mae cerfluniau a chofebion i bobl oedd yn ymwneud a chaethwasiaeth yn destun llosg mewn sawl tref a dinas.

Daw hyn ar ôl i gefnogwyr ymgyrch Black Lives Matter ym Mryste, dynnu cerflun o Edward Colston i lawr a'i daflu i ddoc y ddinas ddydd Sul.

Cafodd Picton ei glodfori fel arwr cenedlaethol a lleol yn dilyn brwydr Waterloo yn 1815.

Ond fel llywodraethwr Trinidad rhoddodd gosbau llym i'r caethweision a oedd yn gweithio yn y caeau siwgr.

Ffynhonnell y llun, Treftadaeth Lloegr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Syr Thomas Picton ei ladd ym mrwydr Waterloo yn 1815

Yn ôl y cynghorydd Sir Alun Lenny sy'n byw yn y dref mae'r obelisg yng Nghaerfyrddin yn un plaen ac yn 80 troedfedd o uchder.

"Does yna ddim cerflun fel y cyfri i Picton yng Nghaerfyrddin a byddai symud rhywbeth mor fawr yn gallu bod yn ychydig o broblem.

"Ddim ar unrhyw gyfri byddai rhywun yn amddiffyn dyn mor greulon â'i ymddygiad ffiaidd tuag at bobl adeg oes yr ymerodraeth, a does dim dwywaith fod Thomas Picton yn arwr ac yn ddihiryn, fel eraill yn y gorffennol.

Cuddio cerfluniau 'ddim yn ateb'

"Mae cyn gyd-ddisgybl i mi, Mark Drakeford, roedd e yn yr un ysgol yng Nghaerfyrddin sawl blwyddyn yn ôl, yn dweud y dylai cerfluniau o bobl yng Nghymru lle mae eu hanes nhw yn perthyn i'r gorffennol gael eu rhoi mewn amgueddfeydd.

"Dwi yn anghytuno oherwydd dyw cuddio eu cyfrinachau brwnt o'r gorffennol ddim yn ateb.

"Fe ddywedodd William Faulkner, enillydd y Wobr Nobel nad yw'r gorffennol yn farw, ac nid yw hyd yn oed yn y gorffennol, ac mae hynny yn enwedig yn wir am gaethwasiaeth ymhlith pobl ddu - dyw'r graith heb ei wella."

Ffynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Cerflun HM Stanley yn Ninbych

Mae Maer Caerdydd, Dan De'Ath, wedi galw ar Gyngor Caerdydd i symud y cerflun o Neuadd y Ddinas, gan ddisgrifio Picton fel "perchennog creulon caethweision o'r 19eg ganrif".

Yn y cyfamser, mae deiseb wedi ei sefydlu sydd yn galw am gael gwared â'r cerflun dadleuol o H.M. Stanley o ganol tref Dinbych.

Cafodd y cerflun o'r anturiaethwr ei godi yn y dref yn 2011, dolen allanol, ond roedd nifer yn gwrthwynebu'r syniad, gan ddweud fod Stanley yn euog o droseddau yn erbyn ei gyd-ddyn ac yn ddyn oedd o blaid caethwasiaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych; "Rydym yn ymwybodol fod deiseb wedi ei lansio ynglŷn â'r cerflun.

"Er nad oes yna unrhyw un o drefnwyr y ddeiseb wedi dod atom yn ffurfiol, fe fydd unrhyw ddeiseb sy'n cael ei dderbyn gan y cyngor yn mynd drwy'r broses ddemocrataidd arferol."

Adolygu cofebau Llundain

Mae galwadau mewn sawl dinas led led Prydain am dynnu cerfluniau o 'arwyr' sy'n perthyn i gyfnod caethwasiaeth.

Mae'r Maer, Sadiq Khan, wedi dweud y bydd yn sefydlu comisiwn i adolygu holl gofebau'r ddinas i sicrhau eu bod yn adlewyrchu cymuned aml-ddiwylliannol Llundain.