Mynydd Epynt: 'Angen parhau i adrodd y stori'
- Cyhoeddwyd
"Mae'n rhaid i ni barhau i adrodd y stori yma - fel bod hyn ddim yn digwydd eto."
Geiriau Rachel Lewis-Davies, sydd yn ffarmio gyda'i gwr Bobby wrth droed Mynydd Epynt ger Trecastell ym Mrycheiniog.
Mae'r ardal yn golygu rhywbeth iddi a hynny am fod ei thad-cu yn un o'r rhai a gafodd ei orfodi i adael ei gartref.
Fferm Abercriban ym Mrycheiniog oedd cartref ei thad-cu - Evan Rees Lewis - a dyma lle'r oedd yn byw a gweithio gyda'i dad a'i dri brawd. Roedd ei fam wedi marw yn ifanc gyda'r diciau.
Ym 1940 o dan feddiant gorfodol gan y llywodraeth - Swyddfa'r Rhyfel - cymerwyd y ffarm a'r tir ar ôl penderfynu y byddai'r ardal yn ddelfrydol ar gyfer ymarfer saethu.
'Sioc enfawr'
"Rhaid bod hynny wedi bod yn sioc enfawr iddyn nhw," meddai Rachel. "Gadael y fferm, y gymuned, yr iaith a symud i ardal arall oedd yn fwy Seisnigaidd, mewn rhan arall o Gymru."
Nid nhw oedd yr unig deulu i gael eu heffeithio. Cafodd 57 fferm a thafarn eu cymryd yn ystod 'Y Chwalfa' neu'r 'Epynt Clearance'.
Bu'n rhaid i fwy na 200 o oedolion a phlant adael eu cartrefi a'u cymuned.
Perchnogodd y fyddin tua 30,000 o erwau yn ardal Mynydd Epynt ar gyfer hyfforddi.
Roedd hyn yn rhan o 'ymdrech y rhyfel' - ffordd o gyfrannu at yr achos, gyda'r awgrym bod hwn yn fesur dros dro ac y byddai'r teuluoedd yn gallu dychwelyd ar ôl y rhyfel.
Ond aeth neb yn ôl ac mae'r fyddin yno hyd heddiw mewn ardal sy nawr yn cael ei adnabod fel 'Ardal Hyfforddi Pontsenni'.
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn cyhoeddi amserlen ar gyfer tanio bob mis. Mae'n dangos bod tanio yn digwydd yno bob dydd heblaw deuddydd mis yma.
Cafodd pentref ffug ei adeiladu yn nyffryn Cilieni yn yr 80au hwyr a'i seilio ar bentref nodweddiadol yn yr Almaen.
Mae'n cael ei ddefnyddio hyd heddiw gan filwyr ar gyfer ymarfer hyfforddi ynghanol adeiladau. Ond mae adeiladau gwreiddiol yr ardal, gan gynnwys rhan fwyaf o'r ffermdai wedi eu dymchwel.
Yn ogystal â cholli eu cartrefi, bu colledion ehangach i'r gymuned. Roedd Cymraeg yn iaith gyntaf yn y rhan fwyaf o aelwydydd yr ardal cyn y rhyfel - ond mi ddiflannodd yr iaith bron yn gyfan gwbl ar ôl i'r trigolion adael eu ffermydd.
Roedd enwau'r ffermydd hefyd mewn peryg o gael eu colli, yn ôl Rachel Lewis-Davies.
"Roedd y fyddin yn cyfeirio at y ffermydd fel rhifau - fferm rhif 4 neu fferm rhif 6. Newidiodd Mynydd Bwlch y Groes i fod yn 'Dixies Corner'.
"Ond mae'r enwau gwreiddiol Cymraeg mor bwysig - enwau fel Llwyn Coll, Gilfachyrhaidd, Waunlwyd, Abercriban, Cwm Car - mae'n rhaid i ni gofio nhw."
Roedd Evan Rees Lewis yn 24 pan adawodd e'r Epynt - symudodd gyda'i frawd ieuengaf Mordecai i Faesyfed, priodi merch leol a chael 3 o blant, gan gynnwys tad Rachel, Arthur Rees Lewis.
Cafodd Rachel ei magu yn ardal Llanfair-ym-Muallt ond roedd hi a'i gŵr Bobby yn awyddus i fynd i ffermio.
Mi lwyddon nhw gael fferm gyngor - Ffynnon Gynnydd yn ardal Y Clas ar Wy. Yn 2002 gosodwyd tir gyda hawliau pori ar rent gan y fyddin yn Spite Inn ger Tirabad - yn ôl yn yr ardal ble magwyd ei thad-cu Evan.
O'r diwedd, roedd Rachel yn gallu dychwelyd i'r fro ble roedd ei theulu wedi ffermio yn y gorffennol - ond y tro hwn yn denantiaid i'r fyddin.
"Mae gen i deimlad cryf o gynefin - fel y defaid ni'n ffermio - dwi wedi dychwelyd i'r fan ble dwi fod. Mae'r Epynt yn ganolog i fywyd y teulu, a'r busnes.
"Ro'n i'n benderfynol hefyd i ddanfon fy mhlant i ysgol Gymraeg, fel bod yr iaith hefyd yn gallu dychwelyd i'r teulu."
Mae Rachel hyd yn oed wedi ymgyrchu i gael cydnabyddiaeth swyddogol ar gyfer un o fridiau cynhenid yr ardal - yr Epynt Hardy Speckled Face er mwyn i'r enw Epynt gael ei weld a'i chlywed tu hwnt i'r cysylltiadau milwrol.
Teimladau cymysg o hyd sydd ymysg pobl yr ardal. Mae yna ddyhead amlwg i gofio'r hanes ond mae'r gymuned ffermio yn arbennig hefyd wedi addasu a dod i arfer gyda'r trefniant.
Mae'r hawl i bori ar y mynydd dal yn bwysig ac yn fanteisiol i'r fyddin yn ogystal â'r ffermwyr.
Addasu i'r drefn
Dywed Rachel na fydda hi a'i theulu o bosib wedi cael cyfle i ffermio oni bai am y fyddin ac mae'n mynnu bod y gymuned eisiau cofio'r gorffennol. Ond mae'r gymuned hefyd wedi addasu i'r drefn.
"Mae 'na fygythiadau i'r ucheldir o hyd ac mae angen gwarchod yr ardaloedd pwysig yma. Y cyfiawnhad am be ddigwyddodd yma 80 mlynedd yn ôl oedd bod angen cyfrannu at ymdrech y rhyfel.
"Ond mae'r cymunedau yma yn hynod bwysig i fywyd yng nghefn gwlad Cymru - o ran amaeth, diwylliant ac iaith."
Eleni mae'n 80 mlynedd ers Chwalfa Epynt. I nodi'r achlysur, mae Cymdeithas y Cymod wedi bod yn trydar enw fferm a gollwyd bob dydd mis diwethaf a mis yma, tan 30 Mehefin.
Mae'r mudiad hefyd yn rhannu deunydd hanesyddol, barddoniaeth a gwybodaeth arall am y digwyddiad. Rhan o'r ymgyrch yw hyn i gynyddu ymwybyddiaeth o beth ddigwyddodd.
Maen nhw'n disgrifio'r hanes fel yr 'anghyfiawnder parhaol o gymuned wedi ei aberthu er mwyn dibenion milwrol'.
Hawdd yw gwneud cymhariaeth gyda'r hyn ddigwyddodd yn Nhryweryn.
Pan ymddangosodd murluniau 'Cofiwch Dryweryn' mewn sawl lleoliad yng Nghymru'r llynedd bu'n ysbrydoliaeth ar gyfer murlun arall ymddangosodd ger Rhaeadr yn datgan 'Cofiwch Epynt'.
Yn ôl Rachel Lewis-Davies mae yna drwch o'r boblogaeth sydd ddim yn ymwybodol o hanes yr Epynt ac mae hi'n benderfynol o barhau i adrodd y stori.
'Pennod nesaf'
Mae'n dechrau wrth ei thraed gyda'i phlant - gan gynnwys ei mab Lewis sy'n 20 oed ac sy'n barod yn ffermio - yn gweithio ar y tir yn yr ardal ble ganwyd ei hen dad-cu Evan.
Roedd rhaid i Evan adael, ond mae'r genhedlaeth nesa yn parhau a pharhau mae traddodiadau, iaith ac arferion y teulu yn y fro ble cawson nhw eu magu.
"Roedd Evan Rees Lewis yn un o 220 o ddynion, menywod a phlant cafodd eu danfon o'r Epynt 80 mlynedd yn ôl. Dwi'n un o ddisgynyddion Evan gyda phennod nesa'r hanes i'w hadrodd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2020