Yr ifanc a ŵyr? Elinor Jones a Heledd Cynwal
- Cyhoeddwyd
Elinor am Heledd: "Ry'n ni yn agos, ni'n cael tipyn o sbort"
Fi'n cofio bod Heledd yn blentyn rhwydd, dim lot o brobleme. Mae'n unig blentyn, fel ydw i, ac oedd hi'n hapus i fod ar ben ei hunan ac yn hyblyg iawn.
Pan oedden ni yn byw yng Nghaerdydd aeth hi'n gyntaf i ysgol gynradd gyda tua 600 o blant, wedyn i ysgol gyda 300 o blant, a wedyn symudon ni nôl i ardal Llangadog, a dim ond tua 20 o blant oedd yn yr ysgol; oedd e fel teulu. Ond fe wnaeth hi ffito mewn yn iawn.
Dwi'n cofio y p'nawn cynta' yn yr ysgol, daeth hi nôl yn dweud ei bod hi yn mynd am de parti i dŷ rhyw ffrind newydd.
Mi oedd hi'n mwynhau ymwneud â phlant eraill yn fawr iawn. Pan oedd hi'n hŷn, oedd mynd i gigs Cymraeg yn bwysig iawn iawn iddi, ac o'dd bysus yn mynd o ysgolion Bro Myrddin, Maes yr Yrfa, Strade a Llandysul ac oedd hi'n cwrdd â phobl ifanc o bob man.
Dwi'n meddwl nôl, o'n i'n rhoi rhyddid, falle mwy nag o'n i'n feddwl. Oedd pethe yn weddol hawdd bryd hynny. Mae pobl yn becso fwy heddi. O'n i'n falch gweld hi'n ymddiddori yn y math yna o beth, ac yn gadel iddi ddilyn ei thrwyn.
Pan oedd hi yn ei arddegau cynnar, o'dd hi a fi yn chware lot o dennis a badminton gyda'r nos. O'n ni'n cael lot o sbort yn 'neud hynny. Mae'r ddwy ohonon ni yn eitha' cystadleuol, dwi ddim yn credu allwch chi fod yn y byd teledu neu radio heb fod ychydig yn gystadleuol - nid yn erbyn neb arall - ond yn erbyn chi eich hunan.
Damwain oedd [mynd mewn i'r cyfryngau] i fi a damwain oedd e iddi hi hefyd. Yn sicr, y peth ola' oedd Heledd mo'yn 'neud oedd mynd mewn i'r cyfryngau.
Dwi ddim yn credu mewn gwthio plentyn, achos dwi'n meddwl bod bob person ifanc yn ffeindio eu traed, a mynd i'r cyfeiriad sy'n iawn iddyn nhw.
O'dd Heledd yn dod mewn gyda fi i HTV yn aml iawn pan o'n i'n cyflwyno Y Dydd. Pan o'n i'n cyflwyno fy rhaglen Elinor, roedd yn hwyr ar nos Wener, ond unwaith fi'n cofio Heledd yn dod gyda fi, ac oedd band o'r enw Jesus Jones ar y rhaglen. Doedd hi methu credu bod Mam yn mynd i holi indie band - achos dyw Mam byth yn cool [yn llygad plentyn]!
Y math yna o beth bydde hi yn impressed falle, ond gwaith oedd e, jyst jobyn. Ond bydde dim un plentyn yn lico'r sylw oedd rhywun yn ei gael ar y strydoedd.
A dyna'r unig beth o'n i ddim wir yn hoffi. Oedd pobl yn eich' nabod chi ymhob man. Iawn, os ydych chi wedi cael eich gwallt wedi ei wneud a cholur, ond os chi'n cwato dan gap, dydy e ddim cweit yr un peth!
Dwi ddim yn lico bod yn rhyw fath o seren fawr, ond o'n i'n lico'r gwaith. O'dd y 1980au yn gyfnod cyffrous iawn, mae'n rhaid i fi gyfadde. Oedd rhywun yn dweud "byddi di yn holi Anthony Hopkins neu Harry Secombe neu Tom Jones nos Wener". Oeddech chi'n ei gymryd e yn eich stride.
Ond yn aml iawn y bobl gorau yw'r rhai chi erioed wedi clywed amdanyn nhw ond sydd â stori wych i ddweud ac sydd yn gallu ei dweud hi hefyd. Pobl gyffredin, sydd ddim yn gyffredin o gwbl.
Pan wnaeth Heledd ddechre cyflwyno ar Uned 5, wnes i gymryd e'n hollol ganiataol. Roedd yn rhaid iddi hi dorri ei chwys ei hunan a ddim bod yn mini me, ac fe wnaeth hi hynny, roedd hi yn Heledd o'r dechre.
Mae dull cyflwyno wedi newid yn aruthrol. Pan o'n i'n cyflwyno oedd pethe yn llawer mwy ffurfiol, heddi chi'n cael bod yn fwy ystwyth, ac yn fwy o chi eich hunan. A dwi'n meddwl bod hynny yn beth da.
Ond ni'n edrych ar waith yn debyg iawn; yn gorweithio tu nôl y llenni fel bo' chi ddim yn cael eich dala mas ar y teledu neu ar y radio. Mae eisiau mwy o wybodaeth na sydd angen fel eich bod chi yn gysurus yn y sgwrs.
Roedd Heledd yn cyflwyno Eisteddfod T [ar S4C] yn ddiweddar a dwi'n credu, nid achos bo fi'n fam i Heledd, ond o'n i'n credu o'dd y ddau [Heledd a Trystan Ellis Morris] wedi 'neud yn arbennig o dda, yn torri tir newydd, ac i'r criw wedi gweithio mor galed, fe weithiodd e fel watch. Ma tolc yn y soffa 'da fi ar ôl edrych arno fe!
Dydy Heledd a fi ddim yn byw ym mhocedi ein gilydd, ond pan y'n ni gyda'n gilydd ry'n ni yn agos, ni'n cael tipyn o sbort. Mae hiwmor wastad mor bwysig i'r ddwy ohonon ni.
Bydda i a hi yn cael sgyrsiau dwys a diddorol, mae Heledd yn gwmni difyr.
Heledd am Elinor: "Mae wastad wedi fy nghefnogi."
Wi'n teimlo ges i'r gore o'r ddau fyd yn tyfu lan.
O'n i'n byw ar stryd yng Nghaerdydd tan o'n i yn 9 oed, mewn cymdogaeth dda gyda llwyth o blant o gwmpas. Yn yr 1980au roedd pawb ar eu BMX, rollerskates a mewn a mas o gartrefi ein gilydd. A wedyn symud i Fethlehem, pentre bach yng nghefn gwlad ar bwys Llandeilo, cymdogaeth gwbl wahanol gyda dim ond 18 o blant yn yr ysgol gynradd.
Oedd yn eitha' ynysig i ddechre, ond eto i gyd oedd cymdeithas dda gyda phlant yr ardal.
Oedd hynny yn bwysig iawn i Mam achos dyna lle oedd ei gwreiddiau hi, a mae hwnna hefyd wedi gwreiddio fi yn yr ardal. Dyna pam ddes i nôl i fyw i'r ardal yma, o'n i'n gwybod rhyw ben y bydden i'n dod nôl.
Pan oedd Mam yn cyflwyno rhaglen newyddion Y Dydd ar ddechre yr 80au, yn HTV yn ardal Pontcanna [yng Nghaerdydd] o'n ni'n byw rownd y gornel, ac o'dd hi'n mynd â fi i'r gwaith lot, ac o'n i wrth fy modd. O'n i'n treulio amser gyda'r ysgrifenyddesau ac yn yr stafell golur, ac oedd Clive yn Clwb HTV yn rhoi crisps i fi i gadw fi'n ddiddig!
Dangosodd Mam i fi pan o'n i'n ifanc, os wyt ti'n cael plentyn, alli di fynd â nhw gyda ti i lefydd a 'neud yn siŵr bod y plentyn yn rhan o dy fywyd di. Dyna'n sicr beth ydw i wedi 'neud gyda fy mhlant i. Dwi wedi bod yn lwcus gyda'r math o waith dwi'n' neud, roedden nhw'n gallu dod i'r gwaith gyda fi pan oedden nhw'n fach.
O'n i'n ymwybodol iawn bod Mam yn enwog pan o'n i'n tyfu lan, a fi'n cofio mynd i siopa, a phawb yn edrych arnon ni. O'n i'n embarrassed. Ac os o'n i'n mynd i'r sinema, bydden i'n gofyn iddi ollwng fi yn bell bant - a bydde hi yn, chware teg, achos oedd hi'n deall y sefyllfa. Pan ti'r oedran yna, ti ddim moy'n bod yn wahanol.
'Wi'n agos at Mam, ond mae wastad parch yna. Bydden i ddim eisiau pwsho pethe gormod, ond dwi wedi cael digon o ryddid ganddi. Dwi mor falch mod i wedi cael hynny yn fy arddegau, a chael cyfle i hedfan.
Maen nhw'n dweud y ddau beth mwya' alli di roi i dy blentyn yw gwreiddiau ac adenydd, a fi'n sicr yn teimlo mod i wedi cael y ddau beth yna.
Dwi'n gallu siarad yn agored iawn gyda Mam hefyd, ac wrth fynd yn hŷn, yn fy arddegau hwyr, o'n i'n lico eistedd rownd y bwrdd yn trafod a chwerthin. Dwi'n 'neud hynny nawr gyda fy mhlant fy hunan, yn siarad lot wrth fynd am dro neu wrth goginio.
Oedd bywyd Mam yn gyhoeddus ers yn groten ifanc achos tyfodd hi lan gyda'i Mam yn ei dysgu hi i adrodd a chanu mewn Steddfodau, felly, ar ôl cael ei magu ar lwyfan, oedd mynd mewn i fyd y cyfryngau yn rhywbeth eitha' greddfol iddi fynd i 'neud.
Oedd doedd e byth yn uchelgais i fi. Do'n i ddim yn siŵr beth o'n i moy'n neud, er, fel Mam, o'n i wastad wedi ffeindio mod i'n lico siarad â phobl a dod i wybod amdanyn nhw. Cwmpo mewn i'r byd 'ma wnes i, pan o'n i'n ymchwilydd ar raglen Bacha Hi O 'Ma yng Nghaernarfon, a chael cynnig screen test i gyflwyno Uned 5.
Mae'r ddwy ohonon ni yn gwerthfawrogi work ethic da, bydda i'n rhoi 100% i bopeth dwi'n 'neud. Dwi'n bendant wedi cael hwnna wrthi hi.
Fi'n cofio, pan o'n i'n cario'r plant o'n i'n diodde' o morning sickness eithafol. Gyda Gwern, y plentyn cyntaf, o'n i erioed 'di bod mor dost, ac o'n i'n gorfod colli rhyw wythnos o waith. Roedd Mam yn gefnogol, ac yn dweud wrtha' i bod gen i ddau opsiwn, i roi mewn i'r tostrwydd neu i drio cario 'mlaen.
Ac yn lwcus, dyna lwyddes i 'neud. Mae rhai menywod yn rhy sâl i wneud hynny wrth gwrs, ac er o'n i'n dost, o'n i'n lwcus i allu mynd i'r gwaith. A fi'n cofio, ar ôl tua pum mis o hyn, sgwennodd Mam garden i fi yn dweud 'llongyfarchiadau' achos oedd hi'n gwybod pa mor galed oedd e wedi bod.
Dyw Mam erioed wedi dweud wrtha i beth i 'neud na pheidio 'neud, mae wedi gadael i fi ddilyn fy llwybr fy hunan. Ond os dwi'n gofyn am farn, neith hi fod yn onest ac adeiladol, ac mae wastad wedi fy nghefnogi.
Hefyd o ddiddordeb: