Canolfannau gwyddoniaeth yn gofyn am gymorth hir dymor
- Cyhoeddwyd
Mae canolfannau gwyddoniaeth yng Nghymru yn galw ar Lywodraeth y DU sefydlu cronfa argyfwng gwerth £25m er mwyn sicrhau y byddan nhw'n goroesi cyfnod y pandemig.
Mae'r Gymdeithas ar Gyfer Canolfannau Darganfod Gwyddoniaeth (ASDC) yn dweud bod sefydliadau o'r fath yng Nghymru wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru, ond bod angen cefnogaeth pellach er mwyn sicrhau eu dyfodol hir dymor.
Mae miloedd o ymwelwyr yn mynd i ganolfannau fel Canolfan Technoleg Amgen Machynlleth ym Mhowys bob blwyddyn.
Roedd Xplore! yn Wrecsam - Techniquest Glyndŵr gynt - i fod i ailagor yn ei lleoliad newydd yng nghanol y dref fis diwethaf, cyn i'r gwaith ar y ganolfan gael ei hatal oherwydd coronafeirws.
Hyd yma does dim awgrym wedi bod ynglŷn â phryd y bydd modd ailagor.
'Angen cynaliadwyedd hir dymor'
Mae'r ganolfan wedi ychwanegu ei llais at y galw cynyddol am gymorth gan Lywodraeth y DU.
"Mae'n ymgyrch sy'n targedu Llywodraeth y DU i geisio cael nawdd i ganolfannau gwyddoniaeth, oherwydd dydyn nhw ddim yn gymwys am nawdd diwylliannol, gan gronfa treftadaeth y loteri na chyngor y celfyddydau," meddai'r rheolwr, Scot Owen.
"Mae 'na ychydig o gefnogaeth wedi bod gan Lywodraeth Cymru ac ry'n ni'n ddiolchgar am yr help hynny ond rydyn ni eisiau cynaliadwyedd hir dymor."
Mae dros 40 o ganolfannau darganfod gwyddoniaeth yn y DU.
Tra bo Llywodraeth Cymru wedi darparu cefnogaeth ariannol i safleoedd yng Nghymru, mae Llywodraeth y DU wedi cael cais i sefydlu cronfa argyfwng gwerth £25m er mwyn diogelu dyfodol y canolfannau.
'98% am golli arian'
Dywedodd prif swyddog gweithredol ASDC, Dr Penny Fidler: "Ry'n ni'n gofyn i Lywodraeth San Steffan ystyried ariannu rhai o'r canolfannau darganfod gwyddoniaeth, oherwydd pan fyddan nhw'n ailagor dim ond 30% o'r ymwelwyr arferol fydd yn gallu mynychu er mwyn cadw at reolau cadw pellter cymdeithasol.
"Mae 98% o'r canolfannau'n dweud y byddan nhw'n colli arian dan yr amgylchiadau hynny.
"Mae'r cynllun saib o'r gwaith wedi bod yn grêt ond mae hyn am gefnogaeth hir dymor fel bod y canolfannau gwyddoniaeth yn parhau ar agor ar draws y wlad ymhen blwyddyn a hanner."
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol: "Mae'r llywodraeth yn darparu cefnogaeth sylweddol i atyniadau addysgol fel canolfannau darganfod gwyddoniaeth, ac unwaith y bydd hi'n ddiogel i wneud hynny byddwn yn annog pobl i ymweld â'r atyniadau hyn eto.
"Tan yr amser hynny mae canolfannau gwyddoniaeth yn gallu cael mynediad at becyn cymorth y llywodraeth, gan gynnwys y cynllun saib o'r gwaith, oedi ar daliadau TAW a biliynau o fenthyciadau sy'n cael eu cefnogi gan y llywodraeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd27 Mai 2020