£2.4 bn i gael ei wario ar gyfer argyfwng Covid-19
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu sut y bydd £2.4bn o arian ychwanegol yn cael ei wario er mwyn helpu cwmnïau a gwasanaethau cyhoeddus wrth iddynt geisio ymdopi â'r pandemig.
Cafodd y gyllideb atodol ei chyhoeddi gan y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans ddydd Mercher. Bydd yn cynnwys £750m ar gyfer y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cyhoeddus allweddol medd y llywodraeth.
Ond mae Ms Evans yn dweud fod "rheolau ariannol llym" yn "cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i gyfeirio mwy o adnoddau er mwyn ymateb i COVID-19" ac felly'n galw ar Lywodraeth y DU i lacio'r rheolau hynny.
Pryder am ddirwasgiad
Yng nghynhadledd newyddion dyddiol Llywodraeth Cymru, rhybuddiodd Ms Evans fod hi'n cytuno gyda'r Canghellor Rishi Sunak fod y DU yn wynebu dirwasgiad ar raddfa "na welwyd o'r blaen".
"Mae'r holl dystiolaeth a chyngor a barn yr arbenigwyr yn dweud wrthyn ni ein bod ar drothwy cyfnod anodd iawn, iawn," meddai, gan ragweld economi sy'n tanio ac yn arafu am yn ail wedi'r argyfwng Covid-19.
Dywedodd eu bod yn ceisio gwarchod gymaint o swyddi â phosib trwy'r Cynllun Cadw Swyddi, grantiau a rhyddhad ardrethi fel bod busnesau'n gallu ailgychwyn wedi cyfnod segur.
Mae trafodaethau, meddai, yn parhau gyda gweinidogion cyfatebol yn San Steffan ynghylch y camau nesaf.
Mae'r gyllideb wreiddiol ar gyfer 2020-21 wedi ei chynyddu o fwy na 10% ers mis Mawrth.
Daw'r £2.4bn ychwanegol o gronfa Trysorlys y DU o ganlyniad i wariant ychwanegol yn Lloegr wrth fynd i'r afael ag effeithiau'r pandemig yno.
Ers Mawrth, medd Llywodraeth Cymru, mae arian ychwanegol wedi "helpu i gyflenwi cyfarpar diogelu personol, buddsoddi mewn profi ac olrhain a recriwtio ar gyfer y GIG", yn ogystal â helpu "i ddarparu'r pecyn cefnogi busnesau haelaf yn y DU".
Mewn datganiad cyn cyhoeddi manylion llawn y gyllideb atodol, dywedodd y weinyddiaeth fod dros 52,000 o grantiau "gwerth cyfanswm o dros £640m wedi'u talu i fusnesau yng Nghymru" - busnesau sydd hefyd yn elwa ar ryddhad ardrethi drwy becyn gwerth £1.4 biliwn.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth y prif weinidog Mark Drakeford ddweud y byddai'r rhan o'r arian ychwanegol yn cael ei ddefnyddio yn y modd canlynol:
bron i £500m ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol;
£1.3bn ar yr economi a thrafnidiaeth;
£500m ar gyfer tai a llywodraeth leol.
Mae'r arian ar gyfer cartrefi yn cynnwys arian ar gyfer prydau ysgol am ddim, cynnydd yn y gefnogaeth i gartrefi gofal, a thalu am y cynllun gwirfoddolwyr.
Mae cymorth trethi a chymorthdaliadau ar gyfer cwmnïau ym meysydd lletygarwch, manwerthu a hamdden hefyd yn dod o'r gronfa tai a llywodraeth leol.
Mae comisiynydd Cenedlaethau'r dyfodol, Sophie Howe, wedi annog gweinidogion i achub ar y cyfle i "ad-drefnu'r economi" a buddsoddi mewn tai fforddiadwy carbon isel, a chynlluniau ynni effeithiol ar gyfer cartrefi pobl
Mae hi hefyd wedi galw am fuddsoddi er mwyn gwella systemau cyfathrebu digidol, ac i wella trafnidiaeth ar gyfer cerddwyr a seiclwyr.
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Rheolau'n cyfyngu ar fenthyciadau
Dywedodd Ms Evans fod gweinidogion Cymru "wedi mynd y tu hwnt i'r cyllid rydym wedi'i dderbyn gan Lywodraeth y DU er mwyn darparu cefnogaeth wedi'i thargedu - o gyllido prydau ysgol am ddim drwy gydol y gwyliau i ddarparu'r pecyn cefnogi busnesau haelaf yn y DU.
Ond fe rybuddiodd fod "llawer o heriau o'n blaen o hyd ac mae ein gallu i ymateb yn cael ei gyfyngu gan y rheolau ariannol llym sy'n cael eu gorfodi arnom ni gan Lywodraeth y DU.
"Bydd llacio'r rheolau ar gyfer y ffordd rydym yn rheoli ein cyllideb a'r swm y gallwn ei fenthyca yn rhyddhau adnoddau y mae eu gwir angen ar gyfer y rhengoedd blaen yn yr argyfwng hwn," meddai.
"Byddaf yn parhau i annog Trysorlys EM i ddatrys y broblem hon ac, wrth i ni edrych ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru yn dadlau'r achos yn erbyn unrhyw fwriad i ddychwelyd at bolisi di-hid o gyni."
Angen 'cyllideb arloesol'
Mewn ymateb dywedodd Gweinidog Cyllid Cysgodol y Ceidwadwyr, Nick Ramsay, y gallai rhai elfennau o'r gyllideb fod yn beryglus.
"Dywedais yn gynharach bod angen cyllideb fentrus ac arloesol er mwyn lleddfu effeithiau'r pandemig - yn enwedig yn sectorau iechyd a'r economi - ond mae'r hyn a gyflwynwyd i ni yn brin o'r nodweddion hynny, ac mae ganddo'r potensial i fod yn beryglus i ffyniant Cymru yn y dyfodol.
"Mae'r rhan yn ddyddiau digynsail, ond gallai galw am ddileu cyfyngiadau benthyca, glymu Cymru a'i phobl i flynyddoedd o ddyled.
"Ydi mae Cymru angen buddsoddi, ond mae angen bod yn gynaliadwy a diogel yn gyllidol, fel na fydd yn dal trethdalwyr mewn dyledion cynyddol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2020
- Cyhoeddwyd5 Mai 2020