Teyrngedau i yrrwr fan 38 oed fu farw mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Ben PartisFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau enw dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A487 yng Ngheredigion ddydd Llun.

Roedd Benjamin Samuel Partis, oedd yn cael ei nabod fel Ben, yn 38 oed ac o ardal Aberteifi.

Bu farw wedi gwrthdrawiad rhwng fan a lori yn ardal croesffordd Pentregat, rhwng Tanygroes a Synod Inn.

Mae'r ymchwiliad heddlu i'r digwyddiad yn parhau.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Ben Partis gyda'i deulu

Dywedodd ei deulu mewn teyrnged: "Bydd y byd yn le tlotach hebddo.

"Roedd gan Ben gymeriad mawr a chalon fawr, llawn hwyl a chynhesrwydd. Roedd i blant, ei deulu a'i ffrindiau yn golygu popeth iddo, ac roedd yn dad a darpar ŵr ffantastig."

Ychwanegodd teyrnged y teulu fod Mr Partis "wastad y cyntaf i helpu, yn llawn brwdfrydedd ac egni".

"Roedd Ben yn meddwl yn ddiffuant am les eraill, wastad yn rhoi blaenoriaeth i hapusrwydd eraill o flaen ei hun."

Gan gydymdeimlo gyda'r teulu, dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod yn awyddus i glywed gan unrhyw dystion i'r gwrthdrawiad sydd heb siarad â nhw eisoes.