Cymeradwyo cynllun ynni gwerth £60m i Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Doc PenfroFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd datblygwyr technoleg ynni yn gallu cynnal profion ar ddyfeisiau yn y ganolfan newydd

Mae cynllun ynni morol gwerth £60m wedi ei gymeradwyo i Sir Benfro gan arwain at hyd at 1,800 o swyddi dros y 15 mlynedd nesaf.

Bydd y buddsoddiad yn Ardal Forol Doc Penfro yn cael ei gefnogi gan y sector preifat a'r awdurdod lleol.

Nod y cynllun yw caniatáu i ddatblygwyr technoleg gynnal profion ar ddyfeisiau ynni morol ym mharth Aberdaugleddau.

'Newyddion da'

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Benfro, David Simpson, eu bod yn barod i ddechrau gweithio ar y cynllun wedi i'r achos busnes i'r datblygiad gael ei gymeradwyo gan lywodraethau Cymru a'r DU.

Yn ôl Cyngor Sir Benfro mae disgwyl i'r prosiect greu £73.5m y flwyddyn i economi Ardal Ddinesig Bae Abertawe.

Dywedodd Mr Simpson: "Mae effaith Covid-19 wedi dangos pwysigrwydd Doc Penfro felly mae cymeradwyo'r cynllun hwn yn newyddion da iawn i drigolion a busnesau Sir Benfro.

"Bydd y prosiect yn gosod y sir a'r ardal ddinesig wrth galon diwydiant byd eang sy'n tyfu."

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi, Lee Waters: "Mae'n dangos yn glir ein hymrwymiad i ddatblygu canolfan ragoriaeth i dechnoleg forol yma yng Nghymru."