Pryder teithwyr am drenau gydag un toiled
- Cyhoeddwyd
Mae cymdeithas sy'n cynrychioli defnyddwyr trenau wedi cwyno i Gwmni Trafnidiaeth Cymru am mai dim ond un toiled fydd ar rai o'r trenau newydd.
Bydd y trenau newydd - 51 o drenau dau gerbyd a 26 o rai tri cherbyd - yn cludo teithwyr ymhen rhyw ddwy flynedd.
Dim ond un toiled fydd ar y cerbydau dau gerbyd, gyda dau ar y cerbydau tri cherbyd.
Mae'r cwmni, sy'n gyfrifol am drenau yng Nghymru a'r Gororau, wedi gwario £800m ar y trenau newydd.
Mae'r trenau'n cael eu hadeiladu yn Sbaen ar hyn o bryd, ac fe fydd y cerbydau yn cael eu gorffen yng Nghasnewydd.
Fe fydd y trenau dau gerbyd yn gallu cludo rhyw 120 o deithwyr.
Mae grŵp Railfuture, sy'n cynrychioli buddiannau teithwyr, yn dadlau nad ydi'r ddarpariaeth yna yn ddigonol, gan y gall rhai teithiau gymryd oriau, er enghraifft, o Aberdaugleddau i Fanceinion, neu o Bwllheli i Birmingham.
Dywed y gohebydd trafnidiaeth, Rhodri Clark, mai rhesymau economaidd sydd y tu ôl i'r penderfyniad.
"Fedrwch chi gael mwy o seddi yn yr ail gerbyd os nad oes tŷ bach yno a dros y tymor hir mae yna gostau ychwanegol o lanhau'r toiledau ychwanegol a gwagio'r tanciau gwastraff bob nos o dan y trên," meddai.
"Ond ar yr ochr arall, y drafferth ydi mae'r trenau yma yn mynd i deithio ar siwrneiau gweddol hir, pump awr mewn rhai achosion.
"Os ydi'r trên yn brysur fydd yna lot o bobl yn ciwio drwy'r siwrnai."
'Ddim yn dderbyniol'
Ar lein y Cambria, oherwydd y system signalau, dim ond y trenau dau gerbyd fydd yn cael eu defnyddio.
Cyn y gwaharddiadau presennol roedd Victor Jones o Bwllheli yn defnyddio'r gwasanaeth yn aml.
"Dwi'n croesawu fod yna drenau newydd am ddod ar y Cambrian wrth gwrs, ond dydi cael un toiled i 120 [o deithwyr] ddim yn dderbyniol.
"Fydda i'n gweld criwiau yn mynd am dro am y diwrnod ac ar ddiwedd y dydd mi fyddan nhw yn dod adra ac mae'n siŵr y byddan nhw angen toiled," meddai.
"Ar wahân i hynny mae plant ysgol yn mynd i Harlech ac mae'r trên yn llawn amser hynny wrth gwrs.
"Yn y gaeaf mae llawer o bobl oedrannus yn defnyddio'r trên gan ei fod am ddim ac wrth gwrs mae trenau o Bwllheli yn mynd i Birmingham a dwi'n siŵr fod angen toiled mewn pum awr."
Ymateb y cwmni
Mewn datganiad dywed Trafnidiaeth Cymru eu bod wedi gweithio'n galed i gael cydbwysedd rhwng nifer y seddi ar y trenau a nifer y toiledau.
"Rydym yn sylweddoli ei bod yn bwysig gofalu fod y toiledau ar gael bob amser ac felly rydym wedi gofalu bod modd eu defnyddio am ddeuddydd cyfan petai angen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd19 Medi 2019