Endaf Emlyn a 'throbwynt' y record eiconig Salem

  • Cyhoeddwyd

Mae tair albym ddylanwadol gan Endaf Emlyn wedi cael eu rhyddhau yn ddigidol gan gwmni Sain, sy'n eu disgrifio fel "rhai o'r albyms mwyaf arwyddocaol yn hanes canu pop Cymraeg", sef Salem, Syrffio Mewn Cariad a Dawnsionara.

Salem yn 1974 oedd y gyntaf o'r rhain, a hon hefyd oedd y record gysyniadol gyntaf yn y Gymraeg yn seiliedig ar y llun enwog gafodd ei baentio yng nghapel Salem ym Meirionnydd yn 1908.

Ar achlysur 40 mlwyddiant yr albym yn 2014 cafodd Cymru Fyw sgwrs gydag Endaf Emlyn am yr albym a ddaeth â fo "yn ôl at y Gymraeg".

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Endaf Emlyn yn gafael yn y record eiconig, Salem. Cafodd rhaglen arbennig am Salem ei darlledu ar S4C yn 2014 i nodi 40 mlwyddiant yr albym.

'Hiraeth'

"Yr amcan oedd i ddyfeisio ffurf hir yn y Gymraeg, am Gymru. Er bod yr albwm yn rhan o'r hyn oedd yn digwydd yn rhyngwladol, ac yn gyfoes, fe roedd hefyd yn Gymreig iawn.

"Roeddwn i'n gweld ein bod ni'n symud ymlaen ac yn gadael ffordd o fyw - mae hiraeth yn yr albwm am y cefndir ges i ym Mhwllheli ac yn tristáu wrth ei weld yn mynd ac wrth feddwl beth fyddai'n dŵad yn ei le."

"Mae 40 mlynedd wedi mynd heibio ers imi recordio hon. Roedd hi'n ddegawd diflas ar un ystyr, roedd gobeithion y 60au wedi'n siomi ni.

"Doedd pync dim wedi digwydd eto a doedd neb yn gwybod beth oedd y peth nesa. Felly dyna pam es i nôl i gapel yn Sir Feirionnydd i chwilio am ysbrydoliaeth…

"Mae llawer o'r caneuon yn hiraethus - mae hynny i raddau helaeth am fy mod wedi bod, i bob pwrpas, yn alltud yn fy mro.

"Roedd yn rhaid imi symud o Bwllheli pan nad oeddwn i isio symud ac felly 'dwi wastad wedi teimlo'n hiraethus o'r bobl yma a'r ffordd yna o fyw."

Disgrifiad o’r llun,

Salem - Llun enwog Curnow Vosper a'r record gafodd ei hysbrydoli ganddo

Salem yn 'drobwynt'

"Mi gafodd yr albwm sylw, ac mae'n rhyfeddol i mi ein bod dal yn siarad am y peth heddiw - sydd mwy na thebyg oherwydd bod y llun ei hun mor eiconig.

"Mae'r recordiau o'r oes yna'n 'bodoli' fel petai, yn ein llaw neu ar ein silff. Heddiw mae caneuon yn cael eu llawrlwytho, fel bysa nhw'n cael eu benthyg mewn ffordd.

"Mae'r record (Salem) yn un o'r pethau dwi'n fwyaf balch ohono, yn rhyw fath o garreg filltir gan mai hon oedd y record gysyniadol hir gyntaf yn y Gymraeg.

"Cychwynnais fy ngyrfa recordio yn y Saesneg, felly roedd Salem yn drobwynt gan imi ddod 'nôl at y Gymraeg - doedd na ddim troi yn ôl wedyn."

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn 2014.

Hefyd o ddiddordeb: