Cynnydd mewn cynganeddu yn ystod y cyfnod clo

  • Cyhoeddwyd
Y Babell LenFfynhonnell y llun, BBC/Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn cynnal cwrs cynganeddu ar hyn o bryd

Wrth i amgylchiadau'r coronafeirws olygu bod rhaid i fwy o ddigwyddiadau a gwersi ddigwydd dros y we, mae'n ymddangos bod cynnydd wedi bod yn y nifer sy'n mynd i ddosbarthiadau cynganeddu ar-lein.

Mae pobl dros y byd wedi dangos diddordeb yn y gwersi ar-lein sy'n cael eu cynnal gan Ysgol Farddol Caerfyrddin.

Ac mae'r dosbarthiadau newydd yn wahanol iawn i'r gwersi arferol ger y bar mewn tafarn leol yn y dref.

Ac nid Ysgol Farddol Caerfyrddin ydy'r unig rai i gynnig gwersi barddol yn ystod y cyfnod clo - mae Menter Caerdydd a'r Eisteddfod Genedlaethol hefyd wedi bod yn cynnig gwersi drwy gyfrwng dosbarthiadau ar-lein.

'Ymateb ardderchog'

"Trwy gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol fe daflwyd y rhwyd yn eang iawn a fe gafwyd ymateb ardderchog a dweud y gwir i'r syniad," meddai Geraint Roberts o Ysgol Farddol Caerfyrddin.

"Oeddwn ni i wedi penderfynu ein bod ni'n cyfyngu'r niferoedd i ryw 25 ond fe gawsom ni tua dwbl y nifer hynny yn ymateb... felly roeddwn i'n hynod o bles gyda'r ymateb.

"Fel arfer, ry'n ni'n cyfyngu ein haelodau i bobl leol sy'n gallu cyrraedd Caerfyrddin, ond maen nhw eleni o Batagonia ac o Lundain. Roedd hynny'n hyfryd iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Ana Chiabrando Rees yn cael ei holi gan Gareth Pennant dros Zoom

Mae Ana Chiabrando Rees, sy'n byw yn nhref Trelew ym Mhatagonia, yr Ariannin, yn un o'r rhai sydd wedi manteisio ar y gwersi newydd.

"Dwi wedi ysgrifennu cerddi Cymraeg ond dim wrth gwrs yn y gynghanedd," meddai.

"Dwi wedi darllen llyfrau, wedi trio dysgu ar ben fy hun ond dydy o ddim yr un peth. Mae'n anodd iawn i wneud o trwy lyfrau, felly dyma gyfle ardderchog.

"Dwi'n dysgu Cymraeg i bobl eraill yma drwy Zoom ar hyn o bryd felly mae'n anodd, ond mae wedi gweithio yn ffantastig gyda'r wers gawson ni nos Fawrth ddiwethaf."