'Anhegwch i famau benthyg' yn ystod y cyfnod clo

  • Cyhoeddwyd
Katie Bezant gyda TadhgFfynhonnell y llun, Lluniau Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd David Pexton-Hayes wedi cael caniatad i fod gyda Katie Bezant, 38, pan gafodd Tadgh ei eni, ond nid oedd gan ŵr David, Donncha, yr hawl i fod yno

Mae yna alw i rieni sydd yn cael babi gyda chymorth mam fenthyg fod yn gallu bod yn bresennol adeg yr enedigaeth a gofalu am y newydd-anedig, er gwaethaf coronafeirws, yn ôl grŵp cymorth.

Dywedodd Surrogacy UK bod rhai mamau menthyg wedi cael gwybod na all y darpar rieni fod yn bresenol adeg yr enedigaeth a bod yn rhaid i'r fam fenthyg ofalu am y babi yn yr ysbyty.

Yn ôl Surrogacy UK mae coronafeirws yn golygu bod rhai darpar rieni yn colli'r enedigaeth oherwydd mai dim ond un person sy'n gallu bod yn bartner geni.

Dywedodd un fam fenthyg ac un rhiant wrth BBC Cymru ei fod wedi gwneud y profiad yn un 'anodd'.

Bob blwyddyn, mae cannoedd o ferched yn gweithredu fel mam fenthyg i bobl sydd yn methu beichiogi'n naturiol.

Y llynedd, aeth 430 o orchmynion rhieni trwy'r llysoedd - lle mae cyfrifoldeb rhiant am blentyn sydd wedi'i gario gan fam fenthyg yn cael ei drosglwyddo.

Cyn coronafeirws, roedd caniatad yn cael ei roi i'r ddau ddarpar riant fynd i'r enedigaeth, yn ogystal â phartner geni y fam fenthyg.

"Yr hyn yr hoffem ni yw cydnabyddiaeth gan yr ysbytai nad yw'r rhieni'n bartner geni," meddai Rena Miras-Pye, ymddiriedolwr Surrogacy UK, a oedd ei hun yn fam fenthyg yn gynharach y mis hwn.

"Yn ddelfrydol byddent yn bresennol, ac os nad oeddent yn bresennol adeg yr enedigaeth, yna ar ôl yr enedigaeth fel y gallant ofalu am eu plentyn ac nid oes rhaid i'r fam fenthyg ofalu am y plentyn hwnnw.

"Yr hyn rydych chi ei eisiau yw i'r rhieni gael yr amser arbennig hwnnw gyda'u plentyn newydd-anedig i fondio â nhw."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu bach adref o'r diwedd - Tadhg gyda David a Donncha, sy'n dal eu merch Saoirse

Fe wnaeth Katie Bezant, 38, eni babi benthyg, Tadhg, bythefnos yn ôl yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd i David a Donncha Pexton-Hayes o orllewin Llundain.

Ar y dechrau fe glywodd y par y byddai'n rhaid iddi roi genedigaeth ar ei phen ei hun a gofalu am y babi nes iddi gael ei hanfon adref, er i'r bwrdd iechyd newid ei bolisi yn ddiweddarach.

Dywedodd David Pexton-Hayes: "Rydych yn mynd trwy'r broses o fenthyca mam - yn aros i gael cynnig cymorth, ceisio am fabi, ac am ba reswm bynnag, weithiau nid yw'n gweithio."

"Felly pan fydd y babi yn cael ei eni a'ch bod chi wedi mynd trwy hynny i gyd, i gael gwybod mae yna bosibilrwydd na fyddwch chi'n gallu dechrau gofalu am eich plentyn - mae fel bod rhywun yn rhwygo'ch stumog allan.

"Mae'n hynod boenus. A hefyd i fam fenthyg gael gwybod y gallai fod yn rhaid iddi edrych ar ôl plentyn, rwy'n credu ei fod yn niweidiol yn feddyliol hefyd."

Er bod Mr Pexton-Hayes wedi cael gofalu am Tadhg pan gafodd ei eni, ni allai ei gŵr fod yn bresennol adeg yr enedigaeth.

Dywedodd Miss Bezant: "Roedd yr ysbyty yn dda iawn am wneud yr hyn a allent, ond oherwydd coronafeirws dim ond un person oedd yn cael caniatad i fod gyda mi adeg yr enedigaeth.

"Roedd yn golygu na wnes i erioed weld Donncha yn cwrdd â'i fab oherwydd iddo gael ei ryddhau ar wahân i mi hefyd, ac ni lwyddodd Donncha i'w weld yn cael ei eni, felly oedd y rhan dristaf yn hyn i gyd."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd Katie enedigaeth i ferch Donncha a David, Saoirse, yn 2016

Dyma'r ail dro i Miss Bezant, sydd â mab yn ei harddegau, i fod yn fam fenthyg i'r cwpl. Fe roddodd hi enedigaeth i'w merch, Saoirse, yn 2016.

Dywedodd bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro y byddai'n caniatáu i'r darpar rieni aros yn yr ysbyty gyda'r babi ar ôl yr enedigaeth.

Mewn mannau arall yng Nghymru, y polisi yw y dylai'r fam enedigol edrych ar ôl y newydd-anedig oherwydd pryderon ynghylch haint yn ystod y pandemig.

Dywedodd Fiona Giraud, cyfarwyddwr gwasanaethau bydwreigiaeth a menywod ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Byddem yn annog mamau benthyg i gysylltu â'u bydwraig yn uniongyrchol i drafod eu trefniadau geni.

"Lle bynnag y bo modd, byddwn yn ceisio dod i gyfaddawd sy'n ystyried eu hamgylchiadau unigryw a'n hangen i gynnal safonau uchel o atal a rheoli heintiau ar gyfer pob merch a'u babanod yn ystod y pandemig."

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda: "Pe bai'r sefyllfa hon yn codi byddem yn cael trafodaethau gyda'r ddwy ochr dan sylw.

"Yn unol â'r canllawiau cyfredol, ni all unrhyw bartneriaid fynd ar y ward ar ôl geni. Rydym yn dal i ganiatáu i un person fod yn bresennol adeg yr enedigaeth."