'Atgyfnerthu darlledu lleol' cyn newid Sain Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Logo Swansea SoundFfynhonnell y llun, Sain Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrch i gadw enw gwreiddiol yr orsaf ers i'r newidiadau gael eu cyhoeddi

Bydd rhaglen newydd leol yn cael ei hychwanegu i amserlen gorsaf radio Sain Abertawe o fis nesaf ymlaen, yn lle rhaglen sy'n cael ei rhwydweithio o Loegr.

Roedd pryderon wedi codi y bydd yna lai o ddarlledu lleol yn sgil newid enw'r orsaf, o fis Medi ymlaen, i Greatest Hits Radio South Wales, er addewid na fydd unrhyw newid i'r ddarpariaeth Gymraeg.

Yn ôl perchennog gorsaf radio annibynnol cyntaf Cymru, cwmni Bauer Media bydd rhaglen nosweithiol y cyflwynydd lleol, Badger - enw darlledu Andy Miles - o 13 Gorffennaf yn "atgyfnerthu'r" amserlen.

Ond mae'r cyflwynydd Chris Jones wedi mynegi siom wrth gadarnhau ar Twitter y bydd ei raglen wythnosol yn cael ei darlledu am y tro olaf ar nos Fawrth 7 Gorffennaf.

Ysgrifennodd fod hynny oherwydd newidiadau'r orsaf "rwyf wedi cael y pleser o fod â slot arni" a bod y penderfyniad yn "siomedig oherwydd rwyf wedi gwneud lot o waith i ddenu mwy o wrandawyr".

Mae'r actor Michael Sheen ymhlith y rhai sydd wedi datgan cefnogaeth i ymgyrch #SaveSwanseaSound ac mae AS Llafur Gŵyr, Tonia Antoniazzi, wedi codi'r mater mewn cyfarfod o Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan.

Ffynhonnell y llun, Greatest Hits Radio
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr ailfrandio'n dod i rym yn gynnar ym mis Medi

Dywed Bauer Media y bydd rhaglen newydd Badger "yn cynyddu cyfanswm oriau darlledu rhaglenni lleol yn ystod y dydd i 18 awr yn barod ar gyfer ail-lawnsid yr orsaf ym mis Medi".

Ychwanegodd y cwmni: "Bydd Greatest Hits Radio South Wales hefyd yn cadw rhaglenni Cymraeg, yn ogystal â newyddion, gwybodaeth, traffig a theithio lleol.

"Mewn newyddion da pellach i wrandawyr lleol, bydd ail-frandio i Greatest Hits Radio South Wales yn golygu fod yr orsaf ar gael yn hyd yn oed fwy o ardaloedd.

"Bydd yr orsaf yn ymestyn ar radio ddigidol DAB i rannau eraill o dde Cymru nad sy'n cael eu gwasanaethu ar hyn o bryd, gan gynnwys Caerdydd."

Ychwanegodd Uwch Reolwr Rhaglenni Sain Abertawe, Steve Barnes fod y newidiadau'n "gyfle ffantastig" i "ehangu ac ymestyn yn ddigidol" a chynnwys "fwy fyth o gyflwynwyr... pob un yn byw yn yr ardal leol ac sy'n angerddol am ein cenedl wych, Cymru".

Pryderon yn parhau

Mae trefnwyr ymgyrch #SaveSwanseaSound yn croesawu'r penderfyniad i ddarlledu rhaglenni lleol yn ystod y dydd ar ddyddiau gwaith ond yn dal yn gwrthwynebu "colli brand eiconig".

Maen nhw hefyd yn amheus o effaith ehangu gwasanaeth i ardal ehangach ar naws yr orsaf i' wrandawyr yn Abertawe, gan ragweld chwithdod "gorfod rhoi sylw cyfartal, diduedd" i dimau pêl-droed Caerdydd a'r Elyrch.

Pryder arall, yn niffyg manylder ynghylch amserlenni'r penwythnos, yw y bydd rhaglen rwydwaith o Loegr yn cymryd lle rhaglen ffonio mewn dydd Sul.