Ymchwiliad i lofruddiaeth dyn 60 oed yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Pabell heddlu tu allan i gartref Terence Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Pabell heddlu tu allan i gartref Terence Edwards ar stad Parc Caia

Mae'r heddlu'n cynnal ymchwiliad llofruddiaeth yn Wrecsam wedi i ddyn 60 oed gael ei ddarganfod yn farw yn ei gartref.

Cafwyd hyd i gorff Terence Edwards yn ei gartref ar un o strydoedd stad Parc Caia, Pont Wen, tua 19:00 ar 1 Mehefin.

Dywed Heddlu Gogledd Cymru fod archwiliad post-mortem yn dangos fod Mr Edwards wedi marw ar ôl cael anaf i'w ben.

Mae'r llu'n awyddus i glywed gan unrhyw un a ymwelodd â'r eiddo rhwng 21:00 nos Wener, 29 Mai ac 1 Mehefin.

Mae teulu Mr Edwards - oedd yn cael ei alw'n Terry - yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Dywed y llu y bydd yna bresenoldeb heddlu ychwanegol yn yr ardal wrth i'r ymchwiliad barhau.