'Magwraeth wych ond distaw' merch cwpl byddar
- Cyhoeddwyd
"Roedd ein tŷ ni wastad yn dawel a do'dd dim pwynt i fi weiddi 'helo' wedi dod adre o'r ysgol," medd Mary Ebenezer.
"Ond mi ges i fagwraeth wych," meddai, "ac rwy'n hynod ddiolchgar i Mam a Dad am bopeth ma' nhw wedi ei 'neud i fi a fy mrawd ond o edrych yn ôl roedden ni fwy fel rhieni iddyn nhw."
Mae Gerwyn a Lorraine Williams ill dau yn fyddar, a Lorraine hefyd yn ddall. Maen nhw'n byw yng Ngors-goch yng Ngheredigion - y naill wedi mynd i ysgol arbenigol yn Llandrindod a'r llall i ysgol yn Abertawe - a'r ddau wedi cyfarfod mewn twmpath dawns yn Nhregaron.
'Helpu fy mrawd i siarad'
"Fy mrawd Byron gafodd ei eni gyntaf," medd Mary, "ac mae'n debyg bod modryb i fi a nifer o'r pentref wedi bod yn dod draw am oriau pan oedd e'n fabi i siarad ag e fel bod e'n clywed iaith a chlywed Cymraeg gan mai byw drwy'r Saesneg ma'n rhieni oherwydd dyna gyfrwng iaith arwyddo.
"Pan ddes i, ro'dd Byron yna i siarad â fi ac mae'n debyg bo' fi'n gallu arwyddo ers yn dair oed.
"Mynd yn ddall wnaeth Mam - roedd hi'n gweld pan yn ifanc. Dyw Mam erioed wedi nghlywed i'n siarad ac roeddwn i'n ferch fach pan aeth hi'n gwbl ddall - ry'n ni'n cyfathrebu drwy gyffyrddiad yn unig.
"Rhaid i ni ei chyffwrdd wrth arwyddo ac yna mae hi'n deall yn iawn.
"I 'weud y gwir do'n i ddim yn meddwl bod fy mhlentyndod i mor wahanol â hynny. Wedi i fi gael plant fy hun fi'n credu bo' fi'n sylwi mwy na rhieni eraill arnyn nhw'n dod adre a gweiddi 'Mam' er mwyn dweud hanes y dydd.
"Tawel iawn oedd ein tŷ ni - ro'n i'n sylwi hynny fwy ar ôl i fi fod ar wyliau gyda pherthnasau yn Nhregaron.
"Ond rywsut mae Mam wastad wedi gwybod be' sy'n digwydd - mae'n gwybod pryd mae car yn dod ac mae ganddi gof da.
"Dyw hi na Dad erioed wedi teimlo'n flin dros eu hunain - mae nhw wedi bwrw 'mlaen 'da bywyd fel unrhyw un arall gyda Dad yn gweithio fel saer coed.
"O edrych yn ôl, mae'n siŵr bo' fi a fy mrawd wedi gorfod tyfu lan yn gloi," ychwanega Mary. "Ni sydd wedi bod yn coginio'r bwyd ers yn blant.
"Fi'n credu bo' ni jyst wedi derbyn mai dyna oedd bywyd - ond o edrych yn ôl falle bod rhai plant yn gyndyn i ddod i'n tŷ ni i barti pen-blwydd gan nad oeddent yn siŵr iawn beth i wneud o'r sefyllfa.
"Ond yn gyffredinol fi a'm mrawd Byron yn credu ein bod wedi cael magwraeth naturiol a hyfryd a ni'n ddiolchgar i Dad a Mam am bopeth ond hefyd i berthnasau a chymdogaeth wnaeth 'neud yn siŵr bo ni'n gallu siarad a byw bywyd drwy'r Gymraeg.
"Pan o'n i oddeutu 18, fe ddaeth 'na bwynt lle feddyliais i bod yn rhaid i fi ddechrau mynd mas fel fy ffrindiau ac o'dd symud i fyw rhyw hanner awr i ffwrdd wedi priodi yn dipyn o gam ond 'wi'n mynd i weld fy rhieni sawl gwaith yr wythnos.
"Ar y dechrau cyn dyddiau mobiles ro'n i'n defnyddio ryw ffôn arbennig i anfon negeseuon at Dad ac ro'dd e'n gallu anfon neges pan o'dd e eisiau rhywbeth.
"Dyw Mam wrth gwrs ddim yn gwybod be' mae fy mechgyn yn edrych fel ond fi wedi cael llun ohonyn nhw mewn braille iddi fel bod rhyw syniad 'da hi."
Synhwyrau eraill yn gryfach
Ond yn sgil cyfyngiadau Covid-19 'dyw Mary ddim wedi gweld ei rhieni ers ddechrau Mawrth ac y mae hynny'n "sobor o anodd", meddai, "ond doedd dim dewis arall".
"Y peth pwysicaf yw bod Mam a Dad yn saff - petaen nhw'n gorfod mynd i ysbyty, fe fyddai hynny'n anodd gan nad yw staff ysbyty, gan amlaf, yn gallu arwyddo.
"Fi'n trefnu'r siopa iddyn nhw nawr ac yn prynu llyfrau braille i ddiddanu Mam ac mae teulu fy mrawd gerllaw i wneud yn siŵr fod popeth yn iawn.
"Ond mae nhw yn ddigon hapus a ddim yn cwyno dim - mae Dad yn awyddus i fynd mas yn lle bod yn y tŷ ac mae Mam yn edrych mla'n i gael spin yn y car.
"Mae Mam yn gwybod yn iawn be sy'n digwydd - mae'n cofio am ffliw fawr yn ystod ei dyddiau ysgol yn Llandrindod ac mae'n gwybod yn iawn nad yw hi fod i fynd ma's ac yn derbyn hynny.
"Dwi'n aml yn meddwl sut mae hi mor ymwybodol o bethau ond mae ei synhwyrau eraill hi fel petaent yn lot cryfach."
Arwyddo yn dod â gwên
Mae Briallt Wyn, wyres i Gerwyn a Lorraine, a nith i Mary, yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae'n dweud bod y cyfnod clo wedi bod yn gyfle iddi ddysgu pobl eraill sut i arwyddo.
"Ceisio dod o hyd i gwrs er mwyn cael cymhwyster proffesiynol i fi'n hun o'n i - rhywbeth i gydnabod bod gen i'r sgiliau ac wedi gweld bod yna brinder gwersi ar hyn o bryd, dyma fi'n penderfynu cynnig gwersi fy hun.
"Fi wedi cael sioc," meddai, "ges i gais gan dros 40 o bobl yn syth - rhai ohonynt yn rhannol fyddar eu hunain, rwy'n rhoi gwers ar Facebook ac yna'n cynnal sesiwn Zoom.
"I bobl byddar, mae'r ffaith eich bod yn gallu deall eu hiaith yn hollbwysig - mae gweld y wên 'na ar wyneb Dad-cu a Mam-gu yn werth y byd - ond gyda Mam-gu wrth gwrs rhaid arwyddo drwy gyffyrddiad.
"Wrth brynu cerdyn i Mam-gu rhaid i fi gael rhywbeth mae hi'n gallu ei deimlo - falle carden pop-up, neu cerdyn sydd â blodyn o ddefnydd neu glitter.
"Mae'n synnu fi be' mae Mam-gu yn sylwi arno - mae wastad yn gwybod, er enghraifft, pryd fi wedi torri fy ngwallt. Mae'r cyffyrddiad 'na yn holl bwysig i ni'n dwy.
"Dwi, fel fy modryb Mary, yn arwyddo ers yn blentyn bach ac mae'n debyg bo fi'n gallu sillafu Saesneg yn weddol gloi. Dwi wastad wedi gwylio subtitles 'da Dad-cu ar y teledu.
"Cofiwch 'wi'n mynd i'r tŷ weithiau a ma' fe wedi gwasgu ryw fotwm ac mae'r sain yn ofnadwy o uchel ond 'dyw e na Mam-gu ddim callach!"
Dywed Mary ei bod hithau hefyd yn falch o'r hyn y mae Briallt yn ei wneud a'i bod yn edrych ymlaen yn fawr i weld ei rhieni pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.
"Yn sicr ches i'r un cam 'da nhw, pan yn blentyn - roedd e'n blentyndod hapus. Mae'n bwysig nawr 'neud yn siŵr bo nhw'n iawn yn y cyfnod 'ma," meddai.
Hefyd o ddiddordeb: