Teyrngedau i nyrs o'r gogledd fu farw â coronafeirws
- Cyhoeddwyd
Mae nyrs "uchel ei barch a phoblogaidd" mewn ysbyty yng ngogledd Cymru wedi marw â coronafeirws.
Roedd Rizal Manalo, oedd yn wreiddiol o Ynysoedd y Philippines, yn gweithio ar ward pump yn Ysbyty Glan Clwyd yn Sir Ddinbych.
Roedd y gŵr 51 mlwydd oed, oedd yn dad i ddau i blant, wedi bod yn derbyn triniaeth yn uned gofal dwys yr ysbyty ers rhai wythnosau.
Mewn datganiad fe ddywedodd yr ysbyty bod Mr Manalo, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Zaldy, yn "uchel iawn ei barch" ymysg cleifion a chydweithwyr.
'Caru ei swydd'
Dywedodd ei wraig, Agnes, fod Zaldy yn berson oedd yn "gweithio'n galed ac yn caru ei swydd" ac yn "ŵr da a thad cariadus i'w blant."
"Byddai Zaldy wastad yn eich cyfarch gyda gwên yn y bore ac roedd ganddo wastad stori i'w adrodd," meddai metron ward pump, Karen Davies.
"Roedd yn aelod gofalgar a thosturiol o'r tîm, yn wir ŵr bonheddig."
Dywedodd Rab McEwan, rheolwr gyfarwyddwr Ysbyty Glan Clwyd: "Ry'n ni'n gyrru ein cydymdeimlad dwysaf at deulu, cyd weithwyr a ffrindiau Zaldy."