Cyhuddiadau twyll yn deillio o farwolaeth bwa croes Môn

  • Cyhoeddwyd
Gerald CorriganFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Gerald Corrigan o'i anafiadau mewn ysbyty yn Stoke ym mis Mai 2019

Mae dau berson wedi cael eu cyhuddo o dwyll a glanhau arian mewn cysylltiad â Gerald Corrigan - a laddwyd gyda bwa croes ar Ynys Môn y llynedd.

Honnir bod Mr Corrigan wedi cael ei dwyllo yn sylweddol yn y misoedd cyn ei farwolaeth.

Cafodd y gŵr 74 oed ei saethu gyda bwa croes tu allan i'w gartref ar gyrion Caergybi ym mis Ebrill 2019, a bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Cafwyd dyn 39 oed o Fryngwran - Terence Whall - yn euog ym mis Chwefror eleni o lofruddio Mr Corrigan, a'i ddedfrydu i isafswm o 31 mlynedd o garchar.

Fe gafodd tri dyn arall eu carcharu am eu rhan yn helpu Whall i geisio cuddio tystiolaeth.

Mae'r ddau sydd wedi'u cyhuddo o dwyll - dyn 49 oed o'r ynys a dynes 50 oed - wedi cael gorchymyn i ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon fis Awst.

Chwe achos o dwyll

Dywedodd y Ditectif Sarjant Arwel Hughes o Heddlu Gogledd Cymru bod ymchwiliad i dwyll wedi'i lansio ar ôl i Mr Corrigan gael ei saethu.

Fel rhan o'r ymchwiliad hwnnw dywedodd y llu eu bod wedi pasio gwybodaeth ymlaen i Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn gynharach eleni.

Dywedodd yr heddlu, yn dilyn trafodaethau gyda'r CPS, bod y dyn lleol wedi'i gyhuddo o chwe achos o dwyll trwy ddweud anwiredd, a bod ei bartner wedi'i chyhuddo o lanhau arian.

Ychwanegodd y llu fod teulu Mr Corrigan wedi cael gwybod am y cyhuddiadau.

Mae BBC Cymru'n cael ar ddeall mai'r ddau berson sydd wedi'u cyhuddo ydy Richard Wyn Lewis a'i bartner Siwan Maclean o Gaergeiliog.