Barn y pleidiau cyn adolygiad arall o'r cyfyngiadau cloi

  • Cyhoeddwyd
senedd

Bydd aelodau cabinet Llywodraeth Cymru yn cwrdd yn ddiweddarach i drafod pa newidiadau, os o gwbl, fydd i reolau'r cyfnod cloi yng Nghymru.

Mae disgwyl i'r Prif Weinidog gyhoeddi'r penderfyniad yng nghynhadledd ddyddiol ddydd Gwener, 19 Mehefin.

Gan y bydd y modd y mae Llywodraeth Cymru'n delio gyda'r argyfwng coronafeirws yn debyg o fod yn amlwg yn yr ymgyrch cyn etholiadau'r Senedd fis Mai nesaf, dyma farn y pleidiau ym Mae Caerdydd am beth ddylai ddigwydd nesaf.

LLAFUR

Er fod rhai wedi beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru am fod yn rhy araf yn codi'r cyfyngiadau ac o beidio dilyn camau Lloegr, mae'r prif weinidog wedi bod yn falch o'i ddulliau gofalus.

Dywedodd Mark Drakeford ddydd Llun mai'r dulliau yma oedd yn gyfrifol am ostwng y rhif R (graddfa heintio yn y gymuned) i lefel sy'n ymddangos yn is yng Nghymru nag y mae dros y ffin.

Dywedodd: "Dyma arwydd o lwyddiant y ffordd ry'n ni wedi gwneud pethau, yn hytrach na chymhelliad i wneud lot fawr yn gyflym iawn."

Yn y gorffennol mae Mr Drakeford wedi sôn am ddefnyddio system "goleuadau traffig" er mwyn llacio cyfyngiadau yn raddol wrth i'r wlad adael y cyfnod cloi drwy barthau coch, oren a gwyrdd.

Ond hyd yma mae wedi gwrthod cyhoeddi amserlen fanwl o pryd y gallai pethau newid, gan ddweud y byddai rhoi dyddiadau pendant yn gallu "tynnu sylw" o faterion eraill.

drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Mark Drakeford gyhoeddi unrhyw newidiadau i'r rheolau ddydd Gwener

CEIDWADWYR CYMREIG

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud eu bod o blaid "dull diogel a chall" o godi'r cyfyngiadau, ond yn credu hefyd ei bod "yn amser nawr i warchod bywoliaeth pobl" yn ogystal â bywydau.

Oherwydd hynny, mae gofynion y blaid bellach yn canolbwyntio ar ganiatáu i fusnesau ailagor.

Yr wythnos hon mae'r Ceidwadwyr wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o "din-droi" ac o fod yn "styfnig" o gymharu â llywodraeth Geidwadol y DU sydd wedi llacio rheolau yn Lloegr ymhellach.

Mae'r Ceidwadwyr yn awyddus i weld atyniadau twristiaid yn enwedig yn cael ailagor, ac maen nhw hefyd am weld y canllaw pum milltir yn cael ei ddileu, gan ddweud bod hynny'n cosbi pobl sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru.

PLAID CYMRU

Mae Plaid Cymru'n credu y dylai iechyd cyhoeddi "ddod yn gyntaf cyn llacio unrhyw gyfyngiadau".

Ond mae'r blaid hefyd am weld Llywodraeth Cymru yn llacio'r rheolau "cyn gyflymed ag y mae tystiolaeth wyddonol yn caniatáu".

Maen nhw hefyd yn galw ar y prif weinidog i gyhoeddi amserlen fanylach i adael y cyfnod cloi fel bod gan fusnesau mwy o eglurder.

Dywedodd llefarydd: "Rhaid pwysleisio'r egwyddor i'r cyhoedd - sydd wedi bod yn amyneddgar a gofalus - fod popeth yn cael ei wneud i geisio adfer rhyw fath o normalrwydd cyn gynted â phosib, gan roi pob mesur angenrheidiol mewn lle i'w gwneud yn bosib gan gynnwys cynllun profi ac olrhain sy'n gadarn, yn eang ac yn gyflym."

PLAID BREXIT

Byddai Plaid Brexit am weld yr holl gyfyngiadau'n cael eu codi ar unwaith, gan honni eu bod wedi cyflawni eu nod, ac y dylid ymddiried mewn pobl i ddefnyddio'u "synnwyr cyffredin".

Dywedodd arweinydd y grŵp yn y Senedd, Mark Reckless: "Dylid dileu ymdrechion i fan-reoli, a chodi'r cyfyngiadau yn gyffredinol... dywedwyd mai nod y cyfyngiadau oedd gwarchod y gwasanaeth iechyd, ac maen nhw wedi cyflawni hynny."

Mwy am coronafeirws
Mwy am coronafeirws