Cyhuddo dyn wedi tân yn Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
Aberteifi

Mae dyn 42 oed o Aberteifi wedi cael ei gyhuddo o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd yn dilyn tân yn Heol y Castell yn y dref yn ystod oriau man Mawrth, 16 Mehefin.

Fe fydd Nathan Lee Jones o Golwg y Castell yn ymddangos gerbron llys yn Abertawe ddydd Iau.

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i'r digwyddiad wedi rhyddhau llanc 17 oed a merch 16 oed, y ddau o Aberteifi, ar fechnïaeth.

Bu'n rhaid i bobl adael nifer o'r adeiladau cyfagos wedi'r tan fore Mawrth, ond chafodd neb ei anafu.