Siopau Cymru 'i gael ailagor' ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl y bydd siopau yng Nghymru yn cael clywed y byddan nhw'n cael ailagor ddydd Llun, pan fydd Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi casgliadau ei adolygiad diweddaraf o'r cyfyngiadau presennol ddydd Gwener.
Hyd yn hyn ers dechrau'r cyfnod clo dim ond siopau sy'n gwerthu nwyddau hanfodol, fel bwyd, sydd wedi bod ar agor yng Nghymru.
Ond mae disgwyl i Lywodraeth Cymru barhau i bwysleisio'r angen am ofal ac mai'r flaenoriaeth o hyd fydd "cadw Cymru'n ddiogel".
Mae siopau yn Lloegr wedi ailagor ers dydd Llun.
Dair wythnos yn ôl, yn ystod arolwg diwethaf Llywodraeth Cymru o'r canllawiau, roedd Mark Drakeford wedi dweud wrth gwmnïau i baratoi ar gyfer bod yn barod pan ddaw'r cyfle i ailagor.
Fe fydd disgwyl i siopau sicrhau fod y rheol ymbellhau o ddau fetr yn cael ei barchu, tra bod y gweinidog iechyd Vaughan Gething wedi dweud nad yw am weld torfeydd mawr yn ymgasglu wrth ymyl siopau.
Dadansoddiad Felicity Evans, golygydd gwleidyddol BBC Cymru
Mae gweinidogion y Senedd wedi awgrymu'n gryf y bydd siopau yn cael ailagor ond maen nhw'n awyddus hefyd i danlinellu'r neges mai 'pwyll pia hi'.
Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi tueddu i wneud un cyhoeddiad o bwys yn ystod bob adolygiad, ac yna i fonitro'r effaith mae hyn yn ei gael ar lefel 'R' y feirws.
Ond yn ddiweddar, maent hefyd wedi bod yn rhoi rhagrybudd i wahanol sectorau am ailagor - siopau yr wythnos nesa, yna ysgolion yr wythnos ganlynol.
Mae'n bosib fory y bydd y sector twristiaeth yn cael rhybudd i wneud paratoadau, fel bod hwythau hefyd yn barod i ailagor pan ddaw'r penderfyniad hwnnw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2020