Coronafeirws: GDP yn crebachu 20.4% ym mis Ebrill
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth GDP y Deyrnas Unedig grebachu 20.4% yn ystod mis Ebrill, a hynny o achos effaith sylweddol cyfyngiadau cloi y pandemig coronafeirws.
Mae GDP - neu Gynnyrch Domestig Gros - yn mesur gweithgarwch economaidd y wlad, yn cynnwys gwerth nwyddau a gwasanaethau sy'n cael eu cynhyrchu mewn cyfnod penodol.
Dyma'r crebachiad mwyaf yn hanes cadw cofnod o weithgaredd economaidd y DU. Dywed y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) fod yr economi yn Ebrill tua 25% yn llai nag oedd ym mis Chwefror.
Er nad oes ffigyrau penodol i Gymru yn yr ystadegau diweddaraf, mae'r darlun yn un sydd yn debygol o adlewyrchu'r hyn sydd wedi digwydd ar hyd a lled Cymru wrth i siopau a fusnesau gau o achos y pandemig.
Gostyngiad 'hanesyddol'
Dywed y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod y gostyngiad "hanesyddol" yma o 20.4% wedi effeithio ar bron pob agwedd o'r economi.
Mae'r crebachu diweddar dair gwaith yn fwy na'r hyn a welwyd yn ystod argyfwng economaidd 2008 a 2009 yn y DU yn dilyn cwymp y marchnadoedd arian.
Fe gyhoeddodd yr ONS ffigyrau am dri mis o Chwefror i Ebrill hefyd, oedd yn dangos gostyngiad o 10.4% o gymharu gyda'r tri mis blaenorol.
Roedd disgwyl i ffigyrau am Ebrill fod y gwaethaf gan nad oedd y cyfyngiadau cloi wedi eu llacio yn rhannau o'r DU tan fis Mai.
Dywedodd Jonathan Athow, dirprwy ystadegydd cenedlaethol dros ystadegau economaidd yr ONS: "Cwymp GDP yn Ebrill yw'r mwyaf y mae'r DU wedi ei weld erioed, bron dair gwaith yn fwy na'r mis blaenorol a bron 10 gwaith yn fwy na'r gostyngiad mwyaf cyn Covid-19.
"Ym mis Ebrill roedd yr economi tua 25% yn llai nag yn Chwefror.
"Cafodd pob rhan o'r economi eu taro, gyda thafarndai, addysg, iechyd a gwerthiant ceir i gyd yn cyfrannu fwyaf at y cwymp hanesyddol yma."
Ychwanegodd fod y diwydiannau adeiladu tai a cheir wedi dioddef yn sylweddol iawn.
Ond ar nodyn mwy gobeithiol, dywedodd hefyd: "Mae'n hynod debygol mae'r isafbwynt yw Ebrill. Mae ein harolygon ni ac arwyddion ehangach wedi awgrymu y bydd cynnydd yng ngweithgaredd yr economi, ond rwy'n credu ei fod yn rhy gynnar i wybod pa mor gyflym y bydd gweithgaredd economaidd yn gwella yn y misoedd i ddod."
'Effaith ddifrifol'
Dywedodd Canghellor y DU, Rishi Sunak: "Fel gyda llawer o economïau eraill o gwmpas y byd, mae coronafeirws yn cael effaith ddifrifol ar ein heconomi.
"Mae'r cymorth yr ydym wedi ei ddarparu drwy ein cynllun ffyrlo, grantiau, benthyciadau a thoriadau i drethi wedi amddiffyn miloedd o fusnesau a miliynau o swyddi - gan roi'r cyfle gorau i ni am adferiad sydyn wrth i'r economi ailagor."
Ychwanegodd y byddai'r sefyllfa'n gwella unwaith y byddai siopau'r stryd fawr yn ailagor. Mae bwriad ailagor rhai siopau yn Lloegr ddydd Llun, er nad oes cyhoeddiad wedi ei wneud am ailagor siopau yma yng Nghymru eto gan Lywodraeth Cymru.
Beth yw dirwasgiad?
Mewn cyfnod cyffredin mae economi gwlad yn tyfu. Ar gyfartaledd mae dinasyddion y wlad yn tyfu ychydig yn fwy cyfoethog wrth i werth y gwasanaethau a nwyddau sy'n cael eu cynhyrchu - y Cynnyrch Domestig Gros - gynyddu.
Ond ar adegau mae gwerth gwasanaethau a nwyddau yn gostwng.
Mae dirwasgiad yn cael ei ddiffinio fel cyfnod pan mae hyn yn digwydd am ddau gyfnod o dri mis - neu dau chwarter - yn olynol.
Yn dechnegol nid yw'r DU wedi cyrraedd y sefyllfa yma eto. Ond mae disgwyl y bydd Cymru, y DU, ynghŷd â gweddill y byd yn wynebu'r dirwasgiad gwaethaf ers degawdau o achos y pandemig coronafeirws.
LLIF BYW: Y diweddaraf ar ddydd Gwener 12 Mehefin
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd21 Mai 2020