Busnesau yn galw am 'well canllawiau' coronafeirws
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Lywodraeth Cymru ddarparu gwell canllawiau wrth i siopau ar wahân i'r rhai sy'n gwerthu nwyddau angenrheidiol baratoi i ailagor - dyna rai o'r galwadau o fewn y sector.
Yn ôl perchnogion siopau annibynnol bach mae'r sefyllfa yn aneglur ynglŷn â sut i weithredu rheolau ymbellhau'n gymdeithasol o fewn siopau cyfyng.
Ddydd Llun fe wnaeth siopau y stryd fawr ailagor yn Lloegr, cyn belled â'u bod yn cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol.
Yng Nghymru, dim ond siopau sy'n gwerthu bwyd a nwyddau sydd wedi eu categoreiddio fel rhai angenrheidiol sydd wedi parhau ar agor yn ystod y pandemig.
Yn y cyfamser, mae yna rybudd hefyd oddi wrth dafarndai y gallai miloedd o swyddi fod yn y fantol o ganlyniad i'r pandemig a'r mesurau i'w reoli.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyhoeddi canllawiau i gefnogi busnesau ac y byddai canllawiau penodol i'r sector yn cael eu cyhoeddi yn fuan.
'Ysu i ailagor'
Galw am "well canllawiau" mae perchnogion rhai o siopau bach Cymru.
Dair wythnos yn ôl dywedodd Mark Drakeford y dylai busnesau ddefnyddio'r cyfnod o'u blaenau i baratoi ar gyfer ailagor.
Does dim gwefan gan Siop Inc yn Aberystwyth ac er bod rhai archebion wedi cael eu postio yn ystod y cyfnod does prin dim incwm wedi ei gynhyrchu ers mis Mawrth.
Oherwydd hynny, mae'r perchennog Angharad Morgan wedi mynd nôl i weithio i'r gwasanaeth iechyd lleol.
"Fi'n ysu i fynd nôl ac agor drws y siop ond eto i gyd yn reit bryderus am wneud hynny hefyd.
"Does dim byd pendant wedi dod o'r Llywodraeth felly dydyn ni ddim yn siŵr," meddai Ms Morgan.
"Mae'n rhaid cadw at fesuriadau pellter a hyn a'r llall a neud yn siŵr bod y lle yn saff ond does dim canllawiau pendant wedi dod chwaith.
"Os fyddwn ni'n cael agor, fy mhryder i yw, a yw bobl yn mynd i ddod allan?"
Mae siop wlân Clare's yn adeilad cul gyda'r perchennog Cynthia Binks hefyd yn ansicr ynglŷn â'r ffordd orau o weithredu'r rheolau newydd.
"Ni angen mwy o gyngor, a dweud pryd ni'n gallu agor achos wedyn bydd modd i ni roi'r busnes mwy ar y blaen.
"Mae'n anodd i ni baratoi ar gyfer ailagor."
Mae cynllun busnes y Treehouse wedi newid yn yr wythnosau diwethaf, gyda'r siop yn symud i leoliad mwy cyn gynted â phosib.
Yn ôl un o'r cyfarwyddwyr, Gwern Gwynfil, mae'n "rhaid arloesi" er mwyn goroesi.
"Mae'r safle newydd chwe gwaith maint ein gofod presennol ni.," meddai.
"Mae gofod yn mynd i fod yn broblem i fusnesau wrth i'r Gaeaf agosáu.
"Hefyd, mae'r holl argyfwng wedi cyflymu newidiadau oedd yn digwydd yn y byd masnach ta beth.
"Mae'r profiad siopa yn gorfod newid ac mae cael mwy o ofod yn neud e'n haws i ni roi profiad gwell."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai penderfyniad ynglŷn â'r siopau yn cael ei gymryd ddydd Gwener fel rhan o'r cyfnod arolygu sy'n digwydd bod 21 diwrnod - ac yn ofynnol yn ôl y gyfraith.
"Fe fydd y penderfyniad wedi ei wneud ar siâl y dystiolaeth wyddonol a meddygol diweddaraf."
Yn y cyfamser, dywed cwmni S.A Brains, cwmni tafarndai mwyaf Cymru, fod peryg i dros 40,000 o swyddi oherwydd effaith y cyfyngiadau presennol.
Yn ôl Alistair Darby o gwmi S.A .Brain, sy'n berchen ar tua 100 o dafarndai, mae'r cloc yn tician.
Dywedodd fod y coffrau wrth gefn bron yn wag.
Ychwanegodd hyd yn oed pe bai Mark Drakeford yn cyhoeddi bod modd ailagor yn yr haf byddai dros hanner eu tafarndai yn parhau ar gau oherwydd bydd nifer y cwsmeriaid tua thaeran yr hyn yr oedd cyn y pandemig.
Yn ôl arolwg gan y BBPA (British Beer and Pubs) ym mis Ebrill ni fyddai 40% o dafarndai'r DU yn goroesi tan fis Medi.
Dywed y BBPA fod y sector yn cyflogi 42,000 o bobl yng Nghymru ac yn cyfrannu £950 i'r economi yma.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai'r cyfyngiadau presennol ond yn cael eu llacio pan ei fod yn ddiogel i wneud hynny.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd31 Mai 2020