Newid 'aros yn lleol' a hwb i dwristiaeth fis nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi cyfles o newidiadau i lacio'r cyfyngiadau yng Nghymru yn ystod yr wythnosau nesaf, gan gynnwys bwriad i ddileu'r rheol ynghylch aros yn lleol ar 6 Gorffennaf, os bydd yr amgylchiadau'n caniatáu hynny.
Cadarnhaodd Mark Drakeford hefyd yn y gynhadledd newyddion ddyddiol fod siopau sydd ddim yn hanfodol yn cael ailagor a bod modd dechrau ailgydio yn y farchnad dai o ddydd Llun.
Hefyd o ddydd Llun ymlaen bydd pobl yn cael gweddïo'n breifat mewn mannau addoli, a bydd modd ailagor cyrtiau awyr agored ar gyfer chwaraeon ble nad oes cyswllt rhwng y cystadleuwyr, fel tenis.
Er nad oes dim sôn am ganiatáu i fwy nac un oedolyn greu 'swigen cefnogi', fel gafodd ei gyhoeddi yn Lloegr wythnos ddiwethaf, dywedodd y Prif Weinidog eu bod nhw'n "awyddus" i ganiatáu hyn, a'i fod yn addo edrych ar hynny ddechrau'r wythnos nesaf.
Mae Mr Drakeford hefyd yn gofyn i'r diwydiant ymwelwyr a busnesau trin gwallt a harddwch baratoi dros y tair wythnos nesaf ar gyfer y posibilrwydd o allu ailagor wedi'r adolygiad nesaf, ar 9 Gorffennaf.
Yn yr adolygiad hwnnw bydd Llywodraeth Cymru'n ystyried opsiynau'n ymwneud â llety gwyliau hunangynhwysol a gwasanaethau gofal personol, ac yn cynnal trafodaethau ynghylch y posibilrwydd o ailagor tafarndai, caffis a bwytai yn raddol.
'Achub rhywfaint o dymor yr haf'
"Rwy'n gwybod bod y diwydiant twristiaeth yn gyffredinol yn awyddus i ailagor ac i achub rhywfaint o dymor yr haf," meddai Mr Drakeford.
"Rwyf felly'n rhoi gwybod i berchnogion llety hunangynhwysol y dylen nhw ddefnyddio'r tair wythnos nesaf i baratoi i ailagor, gan weithio gyda'u cymunedau lleol.
"Ond rwyf am i bobl wybod nad yw coronafeirws wedi diflannu. Mae gennym rywfaint o hyblygrwydd i wneud y newidiadau hyn i'r rheoliadau, a byddan nhw'n cael eu cyflwyno'n raddol ac yn bwyllog yng Nghymru."
Ar 29 Mehefin, bydd disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol i ailgydio ynddi, i ddal i fyny ac i baratoi ar gyfer yr haf a mis Medi, yn unol â'r cynlluniau a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams.
Er bod dal angen i bobl beidio â theithio mwy na phum milltir o'r cartref, mae canllawiau newydd yn caniatáu teithio ymhellach "i ymweld â pherthnasau a ffrindiau agos ar sail trugaredd".
Mae hynny'n cynnwys mynd ymweld â pobl mewn cartref gofal neu sefydliad troseddwyr ifanc, dan amgylchiadau penodol.
Bydd pobl hefyd yn cael teithio i bleidleisio mewn etholiadau tramor, os oes rhaid gwneud hynny mewn person.
Newid arall sy'n dod i rym ddydd Llun yw hawl athletwyr elît sydd ddim yn broffesiynol, gan gynnwys unigolion sy'n gobeithio cymryd rhan yn y gemau Olympaidd a Pharalympaidd, i ailddechrau hyfforddi.
'Symud i'r parth oren'
Mae'r newidiadau'n golygu fod Cymru'n "symud i'r cam oren" o ran system goleuadau traffig llacio'r cyfyngiadau, medd Mr Drakeford, sy'n cyd-fynd â chyhoeddiad Llywodraeth y DU fod y Lefel Rhybudd Covid-19 yn gostwng o bedwar i dri ym mhedair gwlad y DU.
Ond mae'n pwysleisio'r "angen i bob un ohonom barhau i gymryd camau i ddiogelu ein hunain rhag y feirws".
Ychwanegodd: "Mae hynny'n golygu gweithio o gartref os oes modd; osgoi teithio diangen; cwrdd ag aelodau un cartref arall yn unig yn yr awyr agored; cadw pellter cymdeithasol a golchi ein dwylo'n aml. Gall hefyd olygu gwisgo gorchudd wyneb mewn rhai sefyllfaoedd."
Mae Llywodraeth Cymru wastad wedi pwysleisio'r angen i fod yn bwyllog wrth lacio'r cyfyngiadau Covid-19.
Cafodd y slogan "aros gartref" ei newid i "aros yn lleol" dair wythnos yn ôl pan roddwyd caniatâd i bobl deithio ar yr amod bod hynny'n lleol.
Fe gafodd pum milltir ei grybwyll fel canllaw o pa mor bell y dylai pobl deithio, ond ni chafodd hynny ei wneud yn gyfraith, ac mae'r llywodraeth wedi cydnabod bod "lleol" yn bellter gwahanol mewn ardaloedd gwledig o'i gymharu â threfi a dinasoedd.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru hefyd ganiatáu i bobl o ddau gartref gwahanol gwrdd yn yr awyr agored.
Creu 'swigen cefnogi'?
Yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, gall oedolion sengl sy'n byw ar eu pennau eu hunain - neu rieni sengl sydd â phlant o dan 18 oed - ffurfio 'swigen cefnogi' gydag un cartref arall.
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud ei fod yn "awyddus" i ganiatáu 'swigod' yng Nghymru ac mae wedi addo edrych arno ddechrau'r wythnos nesaf.
Ond mewn cyfweliad â BBC Cymru dywedodd na fyddai'n aros am gyfnod "artiffisial" i wneud y cyhoeddiad.
"Gallwn ei gyhoeddi cyn gynted ag y credwn fod gennym bopeth yn ei le," meddai.
"Fe wnaethon ni weithio'n eithaf caled i weld a allen ni wneud y cyhoeddiad hwnnw'n rhan o'r adolygiad tair wythnos hwn," meddai.
"Ond gyda phopeth arall rydyn ni wedi'i gyhoeddi heddiw, yn syml, nid oedd yn bosibl cael yr holl gyngor sydd ei angen arnom i roi'r sylw sydd ei angen arno a dod i benderfyniad cywir.
"Rwy'n sicr yn awyddus i'w wneud, a dyna pam y byddwn yn canolbwyntio arno yr wythnos nesaf."
Ymateb y gwrthbleidiau
Wrth groesawu'r cyhoeddiadau dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod Mr Drakeford wedi "deffro" i alwadau'r blaid am "ddull diogel a synhwyrol o godi'r cyfyngiadau".
Ond roedd Paul Davies, arweinydd y grŵp yn y Senedd, eisiau gwybod pam nad oedd modd codi'r canllawiau pum milltir yn syth.
"Pam aros tan ddydd Llun i ganiatáu i fusnesau manwerthu sydd ddim yn hanfodol ailagor pan gawsant rybudd i baratoi tair wythnos yn ôl?" gofynnodd Mr Davies.
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ei bod yn dda gweld Cymru'n "symud i'r cyfeiriad cywir o ran codi cyfyngiadau a bod y llywodraeth yn teimlo ei bod yn ddiogel ei wneud".
Ychwanegodd: "Fodd bynnag, rwy'n dal i annog y llywodraeth i gynllunio ymhellach ymlaen. Rydyn ni'n symud mewn blociau dwy a thair wythnos yma.
"Mae angen i bobl a busnesau gael golwg tymor hwy na hynny, gyda dyddiadau wedi'u gosod ar gyfer newidiadau tebygol - ond yn amlwg gyda'r posibilrwydd y gall pethau newid."
Croesawodd arweinydd Plaid Brexit yn y Senedd, Mark Reckless y "penderfyniad hwyr" ond dywedodd y dylid codi'r holl gyfyngiadau, gan ymddiried yn "nyfarniad pobl".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2020