Cynghrair y Pro14 i ddychwelyd wedi pum mis o seibiant

  • Cyhoeddwyd
LeinsterFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Leinster yw pencampwyr presennol y Pro14

Bydd cynghrair y Pro14 yn dychwelyd ym mis Awst wedi seibiant o bum mis oherwydd yr argyfwng coronafeirws.

Bydd timau o'r un genedl yn wynebu ei gilydd mewn gemau darbi cartref ac oddi cartref, gyda rhanbarthau Cymru - y Dreigiau, Scarlets, Gweilch a'r Gleision - yn cwrdd.

Fe ddaw'r tymor i ben gyda rownd gynderfynol a rownd derfynol.

Y timau fydd yn gorffen yn y ddau safle uchaf yn Adrannau A a B fydd yn chwarae yn y rownd gynderfynol.

Y gobaith yw cynnal y rownd derfynol ar ddydd Sadwrn, 12 Medi ond nid yw'r lleoliad wedi cael ei gadarnhau hyd yn hyn.

Roedd wyth rownd o gemau yn weddill pan fu'n rhaid i'r gystadleuaeth gael ei hatal ym mis Mawrth oherwydd Covid-19, a ni fydd modd cwblhau'r tymor yn llawn.

Bydd y tymor yn cael ei leihau o 21 gêm i 15, gyda phedwar penwythnos yn olynol wedi'u clustnodi er mwyn cwblhau'r tymor.

Yn y cyfamser mae Undeb Rygbi Cymru wedi canslo digwyddiad Dydd y Farn VIII fyddai wedi gweld y Gweilch yn wynebu'r Dreigiau a Scarlets yn erbyn y Gleision yn Stadiwm Principality.

Roedd y gemau i fod i'w chwarae ar 18 Ebrill ac roedd Undeb Rygbi Cymru wedi gobeithio ail drefnu pan fyddai'r tymor yn ail ddechrau ym mis Awst.

Ond mae rheolau ymbellhau cymdeithasol wedi gwneud hynny yn amhosib a bydd modd o ddeiliad tocynnau hawlio u harian yn ôl.