Dod yn dad yn y cloi: "Teimlo mod i methu helpu"

  • Cyhoeddwyd

Mae Iwan Murley Roberts o Gaerdydd yn dathlu ei Sul y Tadau cyntaf, wedi i'w wraig, Elin, roi genediaeth i ferch fach ddeufis yn ôl.

Sut beth oedd dod yn dad am y tro cyntaf, tra fod y byd i gyd ynghanol pandemig?

Ffynhonnell y llun, Iwan Murley Roberts

Cynt

Mae Greta Marged yn fabi lockdown go iawn, wedi ei geni 18 Ebrill, a 'dan ni wrth ein boddau.

Mae hi 'di bod yn gyfnod rhyfedd iawn. O'ddan ni wedi dechrau'r broses o gael gwersi NCT, a chyfarfod pobl eraill, a dysgu; fel mamau, sut i roi genedigaeth, ac fel tadau, sut i gefnogi'r fam. Ond 'nath hynny ddod i ben yn eitha' cyflym pan ddaeth y lockdown i mewn, ac oedd y sesiynau yna ar-lein wedyn trwy Zoom.

Wedyn cyfyngiadau i'r ward maternity 'nath gau am gyfnod oherwydd salwch yn Ysbyty'r Heath. Wedyn o'dd rhaid gwneud cynlluniau i'r enedigaeth ddigwydd ar y ward consultant. O'dd y gwersi NCT yn sôn am bwll geni yn y stafelloedd a'r ffordd 'sach chi'n licio i'r babi gael ei eni... ond efo'r consultant, mae o lot mwy meddygol.

Ac o'dd 'na gyfyngiadau efo fi. O'n i wedi bod i bob sgan efo Elin hyd at y pwynt yna, ond o pan ddaeth lockdown mewn, doedd hynny ddim yn bosib. O'dd rhaid i mi ei dreifio hi i'r Heath, ac wedyn aros yn y car. Os oedd angen trafod rhywbeth, o'ddan ni'n cael sgwrs fideo fel mod i'n gallu siarad efo'r meddyg oedd yn sbïo ar y sgan!

Ffynhonnell y llun, Iwan Murley Roberts

Genedigaeth

Aeth Elin mewn i gael ei inducio. Fel arfer mae'r tad yn gallu bod yna amseroedd ymweld a 'chydig bach mwy, ond oherwydd lockdown, do'n i ddim yn cael bod yna tan munudau olaf yr enedigaeth.

Do'n i ddim yna'n rhy hir, a dweud y gwir, mond 'chydig o oriau. Ond o'n i yna ar gyfer yr enedigaeth, ac o'n i'n gallu bod yna i'w newid hi am y tro cynta', oedd yn hyfryd, a bod yna pan oedd hi'n cael ei bwydo am y tro cynta'. A phan ddaeth yr amser i fynd ag Elin i lawr i'r ward, o'n i'n gorfod gadael.

Oedd o'n anodd i mi, gorfod eu gadael nhw. Rôl y tad mewn genedigaeth yw un cefnogi yn unig - dal llaw, rhoi massage... mae faint 'dach chi'n gallu ei wneud go iawn yn eitha' bach.

Ond gan mod i methu bod yna wedyn, o'n i'n teimlo'n eitha helpless; yn barod i wneud unrhyw beth, ond ddim wir yn gallu gwneud dim byd.

O'n i ddim yn teimlo mod i wedi colli allan, achos o'n i yna am y munudau pwysig, ond o'n i'n teimlo bach yn drist mod i methu helpu ngwraig i yn y cyfnod anodd 'na ar y noson gyntaf.

Adref

Amser cinio dydd Sul, ges i'r alwad i ddweud eu bod nhw'n hapus iddyn nhw fynd adref. Do'n i ddim yn cael mynd i mewn, o'n i'n gorfod rhoi'r sêt car wrth ddrws yr uned, un o'r gofalwyr yn ei gymryd o, strapio Greta fewn ac Elin yn cerdded allan efo hi.

Ffynhonnell y llun, Iwan Murley Roberts

Dwi ddim wedi bod yn gweithio felly 'dan ni 'di bod yn lwcus iawn achos o'n i'n gallu bod rownd i helpu llawn amser.

Mae o'n anodd hefyd, a weithiau mae angen cefnogaeth ehangach, teulu a ffrindiau, ond wrth gwrs does yna neb yn gallu dod i'r tŷ - yn enwedig efo fy rhieni i yn Ynys Môn, a rhieni Elin yn y canolbarth ac yn eu 70au.

O siarad efo ffrindiau sydd wedi cael plant, mae Nain a Taid weithiau yn dod i aros am gyfnod i helpu, sy' jyst yn rhoi help llaw a easio'r rhieni fewn, achos mae o'n dipyn o sioc cael babi! Mae pobl yn deud wrtha chi, ond nes i mi brofi o, doedd o ddim wedi sincio mewn!

Ac mae'n debyg ei fod o'n gallu bod yn gyfnod blinedig iawn efo ymwelwyr yn y tŷ o hyd yn yr wythnosau cynta, a 'dach chi ddim yn cysgu'n iawn a da chi'n gorfod bod yn neis ac yn poleit i bawb! Dydy hynny ddim wedi digwydd i ni, wrth gwrs, er 'swn i wrth fy modd yn cael gweld pobl go iawn.

Ffynhonnell y llun, Iwan Murley Roberts

Dwi'n ôl yn gweithio rŵan, sy'n wych o ran cyflog ond mae'n golygu fod rhaid i Elin gymryd mwy o'r gofalu ymlaen ei hun, ond 'dan ni'n gwneud patrwm shiffts.

Mae Elin yn wych, mae hi gyda Greta yn y nos i fi allu cael noson o gwsg. Dwi'n gofalu amdani cyn gwaith, i roi cyfle i Elin rechargio'i batris, wedyn Elin sydd efo hi o 9-6 a finnau wedi fy nghloi mewn stafell yn gweithio, yna dwi'n cymryd drosodd wedyn.

Wedi'r lockdown

Y peth anoddaf ydi bod fy rhieni i a rhieni Elin methu ei gweld hi - mae'n dorcalonnus. Er bod technoleg yn wych, dydi o ddim yr un peth â rhoi cwtsh i rywun.

'Dan ni'n gobeithio fydd neiniau a teidiau yn gallu ei gweld hi a gafael ynddi yn fuan iawn, ond 'dan ni jyst yn ymwybodol bod rhaid parhau i fod yn ofalus ac os ydi pethau'n llacio.

Dydy'r un ohonon ni eisiau mynd yn sâl - pwy fasa wedyn yn gofalu am Greta?

Ffynhonnell y llun, Iwan Murley Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Teulu bach o dri

Oedd Elin a fi jyst fel cwpl, a rŵan mae yna un bach sy'n ddibynnol arnoch chi, a 'da chi'n fwy ymwybodol wedyn.

Ond mae o'n stori dda i'w deud dydi - babi lockdown. Ymhen ugain mlynedd, fyddwn ni'n deud am y cyfnod yma, ac yn edrych nôl. Er ei fod o'n gyfnod mor ofnadwy, mae 'na rywbeth unigryw wedi digwydd yn ein hoes ni.

Hefyd o ddiddordeb: