Canslo rhaglen fyw S4C wedi prawf positif am Covid-19
- Cyhoeddwyd

Mae S4C wedi cadarnhau bod rhaglen Gwylio'r Sêr wedi'i chanslo ar ôl i aelod o'r tîm cynhyrchu gael prawf positif am Covid-19.
Roedd y rhaglen fyw i fod i gael ei darlledu am 21:30 nos Wener.
Dywedodd S4C mewn datganiad: "Yn dilyn cadarnhad fod aelod o'r tîm cynhyrchu wedi derbyn canlyniad positif i Covid-19 yn ystod y prynhawn, fe benderfynodd S4C nad oedd modd parhau gyda'r darllediad.
"Roedd iechyd y gymuned leol, staff gwersyll yr Urdd a'r tîm cynhyrchu a chyflwyno yn cymryd blaenoriaeth ar unrhyw ddarllediad."
Fe wnaeth cyflwynydd y rhaglen, Steffan Powell fynegi ei siom ar Twitter am y "digwyddiadau tu hwnt ein rheolaeth".
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.