Dros fil o gleifion cartref gofal ddim wedi cael prawf
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod 1,097 o gleifion ysbyty a gafodd eu trosglwyddo i gartrefi gofal ar ddechrau'r pandemig ddim wedi cael prawf coronafeirws.
Dywed Fforwm Gofal Cymru bod cartrefi gofal o dan bwysau i gymryd cleifion ysbyty heb brawf a bod y sefyllfa wedi mynd o un "ddiogel i un gwbl heintus".
Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu'r llywodraeth gan ddweud bod angen ymchwiliad.
Mae ystadegau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos bod 654 wedi marw o Covid-19 yng nghartrefi gofal Cymru yn y cyfnod hyd at 5 Mehefin sef 28% o holl farwolaethau Cymru o'r haint.
Llawer mwy wedi marw
Yn y cyfamser dywed Arolygiaeth Gofal Cymru, sy'n paratoi adroddiadau eu hunain, bod 2,937 o farwolaethau wedi bod mewn cartrefi gofal ers 1 Mawrth.
Mae'r nifer yma 86% yn uwch na'r un cyfnod y llynedd a 54% yn uwch na'r un cyfnod yn 2018.
Mae rhaglen BBC Wales Investigates wedi canfod bod canllawiau Llywodraeth Cymru ar ddechrau'r haint yn nodi nad oedd rhaid profi cleifion nad oedd yn dangos symptomau wrth iddyn nhw gael eu symud o ysbyty i gartref gofal.
Dywed Nigel Clark, sy'n berchen ar gartref gofal ym Mhort Talbot, ei fod yn "teimlo o dan bwysau i gymryd cleifion".
Dywedodd: "Roedd cynrychiolydd ar ran y bwrdd iechyd yn dweud wrthyf y byddai'n mynd at yr Arolygiaeth Gofal er mwyn gwneud yn siŵr fy mod wedi dechrau cymryd cleifion - rhai wedi'u profi neu beidio. Roedd hi am i fi helpu i ryddhau gwelyau yn Nghastell-nedd Port Talbot."
Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe na fydden nhw'n medru goddef ymddygiad honedig o'r fath a bod pob claf bellach yn cael eu profi cyn cael eu hanfon i gartref gofal.
Dilyn y canllaw gwyddonol
Dywed Llywodraeth Cymru bod y polisi o brofi pob claf mewn cartref gofal wedi newid ar 29 Ebrill.
Mae eu ffigyrau yn dangos bod 82% o'r cleifion a gafodd eu rhyddhau o ysbytai Cymru ar ddechrau'r pandemig wedi'u hanfon i gartrefi gofal heb brawf Covid-19 ond maent yn mynnu eu bod wedi gweithredu yn unol â'r cyngor gwyddonol gydol yr argyfwng.
Ond ar 14 Mehefin, dywedodd y gweinidog iechyd y byddai wedi gwneud "penderfyniadau gwahanol" sawl gwaith yn ystod y pandemig.
Mewn cyfweliad ar Politics Wales y BBC dywedodd Vaughan Gething: "Roedd hi wastad yn ofynnol i glaf oedd â symptomau gael ei brofi - dyna oedd ein dealltwriaeth o'r dystiolaeth ar y pryd ond wedyn fe ddaethom i wybod mwy a phetae'r wybodaeth bellach yma gennym ar y pryd mi fydden wedi gwneud penderfyniadau gwahanol.
"Diogelwch pobl Cymru sydd wedi bod flaenaf yn ein meddyliau wrth wneud penderfyniadau."
Ymateb y gwrthbleidiau
Ar ran y Ceidwadwyr dywedodd Janet Finch-Saunders AS: "Mae angen ymchwiliad brys er mwyn canfod effaith hyn ar raddfa'r haint yng Nghymru.
"Mae angen canfod a wnaeth pobl fregus a phreswylwyr eraill yn y cartrefi ddioddef o ganlyniad i agwedd esgeulus y llywodraeth tuag at brofi mewn cartrefi gofal. Gallai fod wedi achosi i Covid-19 i gyrraedd y cartrefi.
"Mae nifer o arbenigwyr gofal wedi bod yn dweud wrthyf sut oeddent o dan bwysau i dderbyn cleifion o ysbytai ac maent yn ofni bod cysylltiad uniongyrchol rhwng hynny a'r nifer uchel o achosion o Covid mewn cartrefi gofal."
Dywedodd Delyth Jewell, AS Plaid Cymru: "Bydd yn rhaid i'r ymchwiliad cyhoeddus i'r haint ganfod pam bod Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i dros fil o gleifion ysbyty i fynd i gartrefi gofal heb brawf.
"Ym mis Ebrill dywedodd y Prif Weinidog wrthyf nad oedd cleifion heb symptomau yn cael eu profi am nad oedd 'unrhyw werth' i'r profion ond mae e wedi gwrthod datgelu pa dystiolaeth oedd yna i gefnogi ei benderfyniad.
"Dwi'n casglu bod ei union reswm yn ymwneud â blaenoriaethu nifer cyfyngedig o brofion oedd ar gael ar y pryd."
'Rhy hwyr wedi gadael y blaidd drwy'r drws'
Wrth ymateb i'r ffigyrau diweddaraf, dywedodd Mario Kreft, Cadeirydd Fforwm Gofal Cymru: "Ry'n nawr yn talu'r pris am na roddwyd blaenoriaeth i ofal cymdeithasol a phan nad oedd gennym yr adnoddau angenrheidiol i ddiogelu preswylwyr a staff rhag Covid-19.
"Mae nifer y marwolaethau mewn cartrefi gofal o'r haint yn syndod, ond yn anffodus ddim yn sioc, pan chi'n ystyried bod cymaint o flaenoriaeth wedi cael ei roi i'r Gwasanaeth Iechyd yn y dyddiau cynnar yn hytrach na gofal cymdeithasol.
"Roedd cartrefi gofal yn teimlo o dan bwysau i dderbyn cleifion ysbyty - yn eu plith rhai oedd yn dioddef o'r haint neu ddim wedi cael prawf a dyna pryd y cafodd hafanau diogel eu troi yn fannau brwydro yn erbyn coronafeirws.
"Unwaith roedd y blaidd wedi'i adael drwy'r drws - dyna oedd diwedd pethau gan fod y clefyd yn un mor heintus.".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2020
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2020