Ymestyn oriau siopa Sul yn 'difetha diwrnod arbennig'

  • Cyhoeddwyd
stryd fawr bangor
Disgrifiad o’r llun,

Stryd Fawr Bangor yn dawel ddiwedd Mai ar ddiwrnod arferol y farchnad brysur wythnosol

Byddai ymestyn oriau siopa ar y Sul am gyfnod dros dro yn difetha'r diwrnod fel un "gwahanol ac arbennig", yn ôl Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

Mae Llywodraeth y DU yn ystyried ehangu'r oriau masnachu er mwyn rhoi mwy o ryddid i siopau mawr aros ar agor yn hirach na'r chwe awr bresennol.

Mae siopau bychain yn cael agor yn hirach yn barod, ond mae'r llywodraeth yn credu y gallai newid y rheolau helpu'r economi yn ystod pandemig y coronafeirws.

Dywedodd un busnes bod yn rhaid agor am oriau ychwanegol gan mai nifer fach sy'n cael dod mewn i'r siop ond mae Undeb yr Annibynwyr yn credu bod yn rhaid cadw'r Sul i fod yn ddiwrnod arbennig.

'Bydd rhaid lleihau faint sy'n dod mewn'

100 mlynedd yn ôl agorodd siop ddillad Evans & Wilkins ei drysau am y tro cyntaf yng Nghaerfyrddin.

Mae'r siop yn parhau i fasnachu ar y stryd fawr a ddydd Llun roedd ŵyr y perchennog gwreiddiol yn barod i ailagor, er bod hynny dan amgylchiadau cwbl newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Rhodri Wilkins ydy perchennog siop Evans & Wilkins

Mae'r rheolau ymbellhau yn golygu bydd llai o gwsmeriaid yn gallu bod yn y siop ar yr un pryd, a byddai agor am oriau ychwanegol yn gallu bod o fantais i'r busnes.

"I ddechrau fi'n gobeithio bydd dau gwsmer, neu dau deulu [yn gallu bod yn y siop] ar y tro," meddai'r perchennog Rhodri Wilkins.

"Mae'n brysur iawn, mae'r back to school trade yn enwedig yn amser prysur, ac mae 'na adegau lle byddai lot mwy na pump teulu yn gallu bod yn y siop. Ni wedi bod lan i 10 teulu ar yr un pryd.

"Ond eleni, bydd rhaid lleihau'r rhif sy'n dod mewn. Bydd rhaid i ni agor oriau extra."

'Y Sul yn wahanol ac arbennig'

Ond rhaid cadw'r Sul yn ddiwrnod arbennig, yn ôl un arweinydd crefyddol sy'n cefnogi gwrthwynebiad yr undebau llafur i'r syniad.

"Maen nhw'n gweud byddan nhw'n estyn yr oriau dros dro am ryw flwyddyn yn unig ond ni gyd yn gwybod beth mae hwnna'n golygu yn aml iawn, bydd e'n rhywbeth sefydlog," meddai'r Parchedig Jill Hailey-Harries, llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y Parchedig Jill Hailey-Harries, llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, gall estyn yr oriau dros dro droi yn rhywbeth sefydlog

"Mae'r Sul yn ddiwrnod gwahanol ac yn ddiwrnod arbennig, boed chi'n Gristion neu yn berson cyffredin.

"Cyfnod i ymdawelu, cyfnod i fod gyda teulu ac ry'n ni wedi gwerthfawrogi hynna yn ystod y cyfnod yma."

Ond gallai cynlluniau'r llywodraeth fod yn y fantol, gydag adroddiadau bod 50 o Aelodau Seneddol y Blaid Geidwadol yn erbyn y syniad.

Llywodraeth y DU sydd â'r pŵer i newid oriau siopau ond mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw hefyd yn gwrthwynebu.

Newid oriau'r Sul neu beidio, mae'r stryd fawr yn camu at y normal newydd a rhaid addasu er mwyn goroesi.