Agor siopau ar y Sul: Llacio deddfau

  • Cyhoeddwyd
Cylchoedd OlympaiddFfynhonnell y llun, BBC News online
Disgrifiad o’r llun,

Canghellor George Osborne: 'Helpu i wneud y mwyaf o botensial economaidd y Gemau'

O ddydd Sul ymlaen am gyfnod o wyth wythnos, mae'r deddfau sy'n rheoli oriau agor siopau ar y Sul yn cael eu llacio oherwydd y gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn Llundain.

Ond mae siopau bach a grwpiau crefyddol yn poeni y gallai fod yn gam tuag at newid parhaol yn y pendraw, rhywbeth y mae llywodraeth Prydain yn ei wadu.

Mae enwad Cristnogol Cymraeg blaenllaw wedi rhybuddio y bydd caniatáu archfarchnadoedd i aros ar agor ar nos Sul dros gyfnod y Gemau "yn cael effaith andwyol ar staff a siopau cornel teuluol, yn ogystal â dinistrio'r hyn sy'n weddill o'r Sul fel dydd o orffwys".

Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn gofyn i Weinidog Busnes y DU, Mark Priske, am addewid pendant y bydd oriau cau ar Ddydd Sul yn cael eu hadfer ar ôl y Gemau.

Mae'r Canghellor George Osborne wedi dweud y bydd y newid yn helpu i wneud y mwyaf o botensial economaidd y Gemau.