Ateb y Galw: Yr actores Mali Ann Rees
- Cyhoeddwyd

Yr actores Mali Ann Rees sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Elgan Rhys yr wythnos diwethaf.
Mae Mali yn wyneb cyfarwydd ar y sgrin fach, ac wedi ymddangos yn y cyfresi poblogaidd Craith/Hidden, Merched Parchus a Tourist Trap. Mae hi hefyd yn gweithio ar y llwyfan, ac yn ddiweddar wedi bod yn rhan o brosiect ddigidol Sherman Ten.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Fy atgof cyntaf i yw bod yn asyn yn sioe Nadolig Ysgol Feithrin Treganna!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Gareth Gates. On i'n hoffi ei wallt pigog!

Roedd Mali yn chwarae'r rhan Siriol yn y gyfres hynod boblogaidd, Merched Parchus
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Pan 'naeth athro Blwyddyn 6 ddarganfod nodyn rhwng fi a ffrind yn gweud pwy o'n ni'n ffansio yn y dosbarth! Mae dal yn gyfrinach rhyngo fi, fy ffrind a'r athro.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Marwolaeth George Floyd.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Defnyddio llawr f'ystafell wely yn hytrach na'r cwpwrdd dillad.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Aberporth: Mamgu a Dadcu, y traeth, ac atgofion melys.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson mas yn Goa, India yn 2013 gyda ffrindiau.

O archif Ateb y Galw:

Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Gofalgar, swnllyd, angerddol.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Angela Griffin - dw i wedi addoli hi ers on i'n ifanc. Byddwn i'n dwli gofyn llawer iddi am ei gyrfa.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Chicken Run - byth yn blino ohono ac yn hoffi bod y ieir yn sefyll lan yn erbyn y sefydliad.

Mae'n siŵr fod Mali wedi gwirioni bod yna ail ffilm am y ieir gwrthryfelgar ar y gweill
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Yn syth ar ôl fy arholiad TGAU olaf es i ganol Caerdydd i gael chwech piercing heb drafod e 'da Mam gynta! Doedd hi ddim yn hapus...
Beth yw dy hoff gân?
Plastic 100ºC - Sampha. Dwi'n dwli ar ei lais a mae'r piano yn y gân yn hudol.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Cwrs cyntaf - Cregyn gleision mewn saws gwin gwyn a garlleg.
Prif Gwrs - Stêc sirloin, sglodion, pys, tomatos, wiwns, madarch garllegog.
Pwdin - Crème brûlée.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Baswn i'n cael parti tŷ enfawr gyda fy nheulu a ffrindiau.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Beyoncé - am resymau amlwg!

Pwy fyddai ddim eisiau bod yn Beyoncé...?!
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Izzy Rabey