Busnesau'n addasu er mwyn delio gydag argyfwng Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Sian a Geraint James o siop Awen Teifi Aberteifi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sian a Geraint James o siop Awen Teifi wedi prynu fan i ddanfon nwyddau i'w cwsmeriaid

Mae nifer o fusnesau o gwmpas Cymru wedi penderfynu addasu eu gwaith wrth ymateb i'r argyfwng coronafeirws.

Un o'r rheini yw siop Gymraeg ac oriel Awen Teifi yn Aberteifi. Fe benderfynodd y perchnogion, Sian a Geraint James, brynu fan er mwyn dosbarthu nwyddau i gwsmeriaid yr ardal.

Yn ôl Geraint, mae nifer o gwsmeriaid yn teimlo'n ansicr am fentro i ganol y dref, er i'r siop ailagor ddydd Llun am y tro cyntaf mewn 13 wythnos.

"We ni'n siarad gyda rhai cwsmeriaid, ac roedd sawl un yn dweud sai'n siŵr pryd fydda i yn teimlo yn ddigon hyderus i fynd nôl i'r dre' eto," meddai.

"Felly penderfynais i brynu fan a ni wedi bod yn dosbarthu nwyddau o'r siop yn ystod y tair i bedair wythnos diwethaf, ac mae hynny wedi gweithio yn eitha' da a bod yn onest. Rwy'n gobeithio parhau gyda hynny â'r siop.

Disgrifiad o’r llun,

Fan newydd siop Awen Teifi

"Mae gwefan hefyd ar waith. Gobeithio mewn pythefnos fydd y wefan lan. Llyfrau ni'n rhoi arno gyntaf.

"Mae e wedi bod yn sbardun i ni addasu. Mae'n rhaid gwneud beth gallwch chi i sicrhau parhad y busnes."

Galw mawr am arwyddion

Draw yng Nghrymych, mae Carwyn Rees, perchennog cwmni arwyddion a dylunio Boomerang, wedi bod wrthi fel lladd nadroedd yn cynhyrchu arwyddion, er mwyn cynorthwyo busnesau i ailagor o dan gyfyngiadau Coronafeirws.

Mae'n cynhyrchu arwyddion i ysgolion, yr Urdd a nifer o fusnesau lleol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni Carwyn Jones yn creu arwyddion sy'n helpu busnesau eraill i ailagor

"Fe wnaethon ni benderfynu ailagor am fod tipyn o alw i ni greu arwyddion, sticeri llawr a phethau fel 'na i helpu busnesau i ailagor.

"Oddi ar i ni ailagor, 'ni wedi cael cyfnod prysur iawn. Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith yn ystod y pythefnos diwethaf wedi bod i ysgolion a busnesau.

"Busnesau gan fwyaf, i helpu pobl i ailagor. Lot o'r sticeri llawr chi'n gweld ar hyd y lle... mae hi wedi bod yn gyfnod hynod o brysur."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni Boomerang yn creu'r math yma o arwyddion

Gyda'r gwaharddiad ar ddigwyddiadau torfol, mae hi wedi bod yn gyfnod digon anodd i gwmni Fedwen Tentage o Drefach Felindre.

Darparu pebyll enfawr ar gyfer priodasau a sioeau yw prif waith y cwmni, ond mae'r cyfarwyddwr, Adam Cole, wedi bod yn gosod pebyll mewn llefydd gwahanol iawn yn ystod yr wythnosau diwethaf.

"Ni wedi bod yn gwneud pebyll ar gyfer yr NHS ar gyfer ysbytai dros dro," meddai. "Mae tri o'r rheini mas gyda ni ar y funud."

Disgrifiad o’r llun,

Adam Cole o gwmni Fedwen Tentage

"Mae cwmni bwyd wedi bwcio tent gyda ni ar gyfer click and collect - cartrefi hen bobl hefyd, ac ysgolion i greu dosbarthiadau awyr agored. Gyda'r cartrefi hen bobl, mae'n golygu fod pobl yn gallu ymweld â'r teulu mewn pabell yn yr ardd heb fynd i'r adeilad."

Mae'r cwmni hefyd wedi arallgyfeirio trwy gynhyrchu sgriniau plastig i'w gosod mewn siopau.

"Mae gyda ni'r cyfleusterau i wneud pethau allan o PVC. Ni wedi addasu hynny i wneud protective screens. Ni'n neud nhw am £10, sydd dwi'n gobeithio yn mynd i helpu pobl."