Rhyfeddu at ddiffyg amrywiaeth barddoniaeth TGAU
- Cyhoeddwyd
Mae angen rhagor o amrywiaeth ar faes llafur yr arholiad TGAU Cymraeg er mwyn rhoi'r cyfle gorau i bobl ifanc ddysgu am Gymru amrywiol a lliwgar, yn ôl un bardd amlwg.
Dim ond un bardd benywaidd sydd ar y rhestr o ddeg sy'n cael eu hastudio yn yr uned farddoniaeth eleni, rhywbeth sydd wedi syfrdanu Iestyn Tyne sy'n dweud bod hynny'n is na'r nifer ddeng mlynedd yn ôl.
"Mae hi'n rhyfeddol mewn oes lle da ni yn trafod cydraddoldeb, a sawl ffurf ar gydraddoldeb, bod y rhestr yma mor gul ei weledigaeth," meddai.
Dywedodd y bwrdd arholi - CBAC - nad yw'r uned farddoniaeth wedi ei gyfyngu i'r 10 cerdd osod, a bod rhyddid i ysgolion gyflwyno amrediad ehangach o gerddi i'w cymharu â'r cerddi gosod yn yr arholiad.
'Rhyfeddol'
Dywedodd Iestyn Tyne ar raglen y Post Cyntaf ddydd Mercher: "Nes i astudio TGAU Cymraeg yn 2013, o'n i'n ymwybodol iawn bod y beirdd nes i astudio ddim yn drawstoriad cynrychioliadol iawn o weithgarwch llenyddol yn Gymraeg - wedi dod yn ymwybodol o hynny yn ddiweddarach ydw i yn hytrach na gwybod hynny ar y pryd, ond dyna oedd y ddelwedd oedd y dewis yno o gerddi yn ei roi.
"Mae hi'n rhyfeddol mewn oes lle 'da ni yn trafod cydraddoldeb, a sawl ffurf ar gydraddoldeb, bod y rhestr yma mor gul ei weledigaeth.
"Ac mae hi mor bwysig ein bod ni'n rhoi'r cyfle gorau i bobl ifanc i ddysgu am Gymru sydd yn amrywiol, sydd yn lliwgar - Cymru y maen nhw'n perthyn iddo fo. Be sydd yn drist ydi bod y lleisiau yma'n bodoli ond eu bod nhw ddim yn cael eu hadlewyrchu."
Dywedodd yr awdur a'r bardd Llio Maddocks: "Dwi 'di cael sioc a deud y gwir.
"Sut ma' disgwyl rhoi darlun cyflawn o farddoniaeth Cymraeg i bobl ifanc heb gynnwys merched? A dwi'n siŵr y byddai'r beirdd sydd ar y cwricwlwm yn cytuno nad ydi o'n adlewyrchu Cymru.
"Sut mae annog lleisiau newydd merched ifanc, pobl ifanc LHDT i farddoni os nad ydyn nhw'n meddwl bod y byd llenyddol yn mynd i'w croesawu nhw? Neu'n mynd i roi platfform iddyn nhw?
"Os mai'r bwriad ydi dangos bod barddoniaeth Cymraeg yn berthnasol, pam dewis cymaint o ddynion gwyn, straight heb adlewyrchu'r amrywiaeth sy'n bodoli?"
'Rhyddid i athrawon'
Wrth ymateb, dywedodd CBAC mewn datganiad: "Er bod CBAC yn nodi 10 cerdd osod yn yr uned ar farddoniaeth nid yw cynnwys yr uned hon wedi ei gyfyngu i'r cerddi hynny.
"Rhoddir y rhyddid i athrawon ac anogir hwy'n gyson i ddewis amrywiaeth o gerddi i'w cymharu gyda'r cerddi gosod gan roi digon o gyfleoedd i'w disgyblion i wneud hyn.
"Un uned o bedair yw'r uned hon ar farddoniaeth. Yn yr uned ar y nofel, mae hanner yr awduron yn fenywod ac yn Uned 3 - Llenyddiaeth mae'r testunau i gyd a gynigir yn seiliedig ar waith gan fenywod.
"Yn uned 4 lle astudir straeon byrion a dramâu - mae yna ddewis cyfartal o waith gan fenywod a dynion ar gyfer y straeon byrion. Ar gyfer y dramâu - mae rhyddid gan athrawon i ddewis testun eu hunain sy'n addas i'w disgyblion.
"Cafodd y fanyleb gyfredol ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru oedd yn gweithredu fel y rheoleiddiwr ar y pryd."
Dyma'r cerddi sydd ar y syllabus Cymraeg TGAU:
Etifeddiaeth - Gerallt Lloyd Owen
Ofn - Hywel Griffiths
Y Coed - Gwenallt
Walkers' Wood - Myrddin ap Dafydd
Tai Unnos - Iwan Llwyd
Rhaid peidio dawnsio... - Emyr Lewis
Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor - Rhys Iorwerth
Gweld y Gorwel - Aneirin Karadog
Eifionydd - R Williams Parry
Y Sbectol Hud - Mererid Hopwood
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2019