Cyn-arweinydd UKIP yn ymuno â phlaid gwrth-ddatganoli

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gareth Bennett yn arfer bod yn arweinydd UKIP yn y Senedd

Mae Gareth Bennett, cyn-arweinydd UKIP yn y Senedd, wedi ymuno â phlaid Abolish the Welsh Assembly.

Dywedodd Mr Bennett, sydd wedi ymgyrchu ers tro i ddiddymu datganoli, fod y Senedd yn "haen rhy gostus o wleidyddion, nad oedd ei hangen".

Mae'r aelod annibynnol o'r Senedd wedi cyflogi dau swyddog o'r blaid ers mis Chwefror.

Enillodd Abolish the Welsh Assembly 4.5% o'r bleidlais ranbarthol yn Etholiadau'r Cynulliad yn 2016.

Mae'r arbenigwr etholiadol, yr Athro Roger Scully, yn credu y gallai'r blaid ennill seddi yn yr etholiadau nesaf ym mis Mai.

Cafodd Mr Bennett ei ddewis yn arweinydd UKIP yn y Senedd yn haf 2018.

Ond lai na blwyddyn yn ddiweddarach roedd y grŵp wedi cael ei ddiddymu pan adawodd rhai aelodau ac ar ôl ffurfio Plaid Brexit.

Etholwyd Mr Bennett i wasanaethu De Cymru Ganolog yn 2016, er bod rhai o'i blaid yn anhapus iddo ymgeisio yn yr etholiad yn dilyn sylwadau a wnaeth am fewnfudwyr o ddwyrain Ewrop.

Gadawodd UKIP ym mis Tachwedd 2019.