Pryder undeb am ddyfodol 240 o swyddi yn Sir Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Magellan Aerospace, Llai

Mae undeb yn honni fod 240 o swyddi yn y fantol mewn ffatri awyrofod yn Sir Wrecsam.

Dywed undeb Unite fod y diswyddiadau arfaethedig yn Magellan Aerospace, ar Stad Ddiwydiannol Llai, yn "newyddion dinistriol i'r gweithlu" ac i economi'r gogledd ddwyrain.

"Byddai graddfa'r diswyddiadau posib yn effeithio bron i hanner y gweithlu presennol," meddai Ysgrifennydd Rhanbarthol Unite yng Nghymru, Peter Hughes.

Dywed y cwmni, sydd o Ganada, fod y pandemig yn cael "effaith ddigynsail" ar y diwydiant awyrofod ond eu bod yn "hyderus" y bydd yn goroesi ac "yn parhau'n rhan o'r gymuned leol am flynyddoedd i ddod".

'Penderfyniadau byrbwyll'

Ychwanegodd Mr Hughes: "Tra bod Unite yn cydnabod pwysau anferthol ar y sector awyrofod ar hyn o bryd, mae'n hanfodol fod Magellan mewn sefyllfa i gynyddu lefelau cynhyrchu'n gyflym unwaith y bydd y pandemig a'i effaith ar y sector yn lleihau.

"Os ydy Magellan yn colli bron i hanner ei weithlu medrus eithriadol, byddai atgyfodi popeth mewn economi ôl-Brexit yn anodd eithriadol."

Ychwanegodd Mr Hughes: "Nid nawr ydy'r amser am benderfyniadau byrbwyll. Mae angen i Magellan beidio colli plwc a chydweithio gyda ni i warchod swyddi a chanfod ffordd ymlaen tra bo'r sector wedi arafu."

Dywedodd Magellan Aerospace mewn datganiad ddydd Iau fod nifer yr archebion wedi gostwng yn sylweddol oherwydd y pandemig.

Oherwydd hynny, meddai, bu'n rhaid cynnal adolygiad ar sail yr archebion tebygol ar gyfer gweddill 2020 a 2021.

Mae trafodaethau'n parhau ar lefel leol a chenedlaethol gydag undeb Unite, ac mae'r cwmni'n dweud eu bod yn "ymdrechu i liniaru'r 240 o ddiswyddiadau arfaethedig".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder yn gyffredinol ynghylch effaith yr argyfwng coronafeirws ar y diwydiant awyrofod

Dywed datganiad y cwmni: "Mae tîm rheoli Magellan wedi dod trwy sawl cylch economaidd yn y gorffennol ac maen nhw'n dal yn hyderus y bydd y cwmni'n goroesi'r storm yma.

Roedd y cwmni hefyd "yn ymroddi i sicrhau fod Magellan yn cynnal capasiti cynhyrchu, llwyth gwaith wedi'i bentyrru'n hirdymor, a hyblygrwydd ariannol, ac y bydd yn rhan o'r gymunedol leol am flynyddoedd i ddod".

Mae Awyrofod Cymru, y corff sy'n cynrychioli'r diwydiant, wedi rhybuddio y gallai'r pandemig gostio hyd at 8,000 o swyddi i'r sector yng Nghymru.

Yn Sir y Fflint gerllaw, mae'r gwneuthurwr awyrennau Airbus - sy'n cyflogi tua 6,000 o bobl ym Mrychdyn - eisoes wedi rhoi dros 3,000 o weithwyr ar gyfnod saib o'r gwaith.