Y Bencampwriaeth: Preston North End 1-3 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Peniad Joe Ralls a sicrhaodd y gôl gyntaf i GaerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Peniad Joe Ralls a sicrhaodd y gôl gyntaf i Gaerdydd

Cafodd gobeithion Caerdydd o esgyn i'r Uwchgynghrair hwb sylweddol wrth iddyn nhw guro Preston oddi cartref o dair gôl i un.

Aeth Caerdydd i Preston yn llawn hyder ar ôl eu buddugoliaeth dros Leeds wythnos diwethaf. Roedd hon yn gêm bwysig iddynt gan fod Preston un safle uwchben Caerdydd yn y Bencampwriaeth.

Roedd amddiffyn y ddau dîm yn gadarn am gyfnod maith, ond yna ar ôl 69 munud daeth y camgymeriad cyntaf yn gêm Preston.

Croesodd Sanderson o Gaerdydd at y postyn pellaf gan greu cyfle i Joe Ralls benio'r bêl i'r rhwyd yn rhwydd.

Ymhen pum munud, Caerdydd oedd yn dangos gwendid. Methodd y cefnwyr â chlirio pêl o'r blwch cosb a daeth y bêl at draed Daniel Johnson a llithrodd i mewn i'r rhwyd. Roedd y timau yn gyfartal eto.

Yn y chweched safle

Ond ar ôl 82 munud, gyda symudiad hyfryd i lawr yr asgell dde roedd Mendez-Laing yn y blwch cosbi yn wynebu'r gôl-geidwad yn unig ac wedi iddo rwydo'r bêl roedd yr Adar Gleision yn ôl ar y blaen.

Roedd hi'n bwrw glaw yn drwm yn Preston ond ni allai'r glaw na chwaraewyr Preston rwystro Glatzel rhag gwibio i fyny'r cae a gosod y bêl yn rhwyd Preston am drydedd gôl Caerdydd.

Buddugoliaeth fawr arall i Gaerdydd felly ac yn wobr am hynny llwyddo i fod chweched yn y Bencampwriaeth a chyrraedd timau'r ail-gyfle.

Fis Rhagfyr oedd y tro diwethaf i'r ddau dîm wynebu ei gilydd a'r adeg honno gêm ddi-sgôr oedd hi.