'A ddylen i anfon fy mhlentyn anabl yn ôl i'r ysgol?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Elan yn dweud ei bod hi'n methu ei ffrindiau ac athrawon

Wrth i nifer o blant a disgyblion baratoi i ddychwelyd i'r ysgol yr wythnos hon mae 'na rai fydd ddim yn gweld eu cyfoedion yn yr ystafell ddosbarth am rai misoedd i ddod.

Ar draws Cymru mae miloedd o blant yn byw gydag anableddau neu anghenion ychwanegol, ac fe all dychwelyd i'r ysgol eu peryglu nhw a staff.

Yn ôl un fam i blentyn sy'n byw â pharlys yr ymennydd, byddai anfon ei merch i'r ysgol yn "risg" ychwanegol.

Does dim canllawiau pendant gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn gyda chyngor i deuluoedd drafod gyda'r ysgol am drefniadau unigol.

Yn 11 mlwydd oed mae Elan Williams o Lanuwchllyn wedi arfer addasu i fyw efo sgil effeithiau parlys yr ymennydd.

Ond mae ei chyflwr yn golygu bod rhaid iddi aros gartref a pheidio dychwelyd i'r ysgol am y tro.

"Mae gan Elan ddatganiad bod hi yn y sefyllfa bregus," meddai ei mam, Ceris Williams.

"Dyw hi ddim yn gorfod poeni os yw hi'n mynd nôl neu ddim rŵan.

"I Elan mae'n gwneud gwahaniaeth, mae hi'n colli ei ffrindiau a'r ysgol."

Er gwaethaf hiraeth Elan am yr ysgol a'i ffrindiau mae'r teulu wedi penderfynu ei chadw adref, yn bennaf oherwydd bod angen cymorth un i un ar Elan.

"Mae Elan efo person i helpu yn y dosbarth," meddai Ceris.

"Mae'n helpu efo pob peth. Mae'n ysgrifennu dros Elan, mae'n symud dodrefn, mae'n mynd â hi i ginio a'i bwydo hi.

"'Di Elan methu aros dau fetr i ffwrdd o'i one to one, mae o jest rhy risky i bawb yn y sefyllfa."

Disgrifiad o’r llun,

Byddai anfon Elan yn ôl i'r ysgol yn risg ychwanegol, meddai ei mam Ceris Williams

Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru maen nhw'n deall y gall cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol fod yn anodd i blant sydd ag anghenion ychwanegol ac y dylai ysgolion ddefnyddio eu "gwybodaeth personol" a bod yn hyblyg wrth drafod gydag theuluoedd.

Gobaith Elan rŵan yw cael dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi ond mae rhagdybio trywydd y coronafeirws yn anodd.

"'Di mis Medi ddim yn bell i ffwrdd," meddai Ceris Williams. "Mae 'na wasanaethau eraill sy'n mynd gyda'r ysgol, 'di Elan ddim wedi cael ffisiotherapi ac mae angen cadair olwyn newydd arni.

"Ond dyma'r sefyllfa 'da ni ynddi a ni'n gobeithio erbyn mis Medi byddwn ni'n gwybod mwy."

Yn ôl Llywodraeth Cymru fe ddylai ysgolion drafod gyda rhieni os oes pryder am ddisgyblion gydag anghenion ychwanegol ac y dylai asesiad risg gael ei gwblhau.