Dim sicrwydd o werth am arian mewn £53m o grantiau
- Cyhoeddwyd
Cafodd gwerth £53m mewn grantiau - oedd i fod i gefnogi'r economi wledig - eu rhoi gan y llywodraeth heb sicrwydd eu bod yn cynnig gwerth am arian, yn ôl adroddiad newydd.
Cafodd £28m ei roi rhwng 2016 a 2019 heb i swyddogion ystyried ceisiadau fyddai'n cystadlu am yr arian, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Rhoddwyd £25m arall i gynlluniau oedd eisoes wedi dechrau, heb wirio pa mor llwyddiannus yr oedden nhw wedi bod.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod camau wedi eu cymryd i fynd i'r afael â'r problemau gafodd eu darganfod.
Dim tystiolaeth o werth am arian
Daeth yr arian o gronfa datblygu cefn gwlad Llywodraeth Cymru, oedd werth £774m rhwng 2014 a 2020.
Ond nid oedd rhannau allweddol o ddyluniad a gweithrediad y cynllun yn ddigon effeithiol i sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr, meddai adroddiad yr archwilydd.
"Fel arfer mae grantiau yn cael eu dyfarnu ar sail cystadleuol, er mwyn sicrhau bod prosiectau gorau - y rhai sydd a thebygolrwydd mwyaf o lwyddo - yn cael yr arian, felly mae sicrhau gwerth am arian," meddai Huw Lloyd Jones o swyddfa'r Archwilydd.
"Be ffeindon ni oedd bod cryn gyfran o'r arian wedi cael ei ddyfarnu heb unrhyw fesurau i sicrhau gwerth am arian.
"Roedd 68 miliwn o'r arian wedi cael ei ddosbarthu drwy geisiadau unigol, sef bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn gwahodd ceisiadau am arian heb unrhyw gystadleuaeth. Fe archwilion ni sampl o 59 miliwn, a darganfod nad oedd unrhyw dystiolaeth bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd unrhyw gamau eraill er mwyn sicrhau gwerth am arian ar gyfer 28 miliwn o'r 59 miliwn hynny."
Cafodd grantiau hefyd eu rhoi i gynlluniau oedd eisoes wedi dechrau gweithredu.
O'r sampl o £30m o grantiau, nid oedd y llywodraeth yn gallu profi ei bod wedi ystyried llwyddiant y cynlluniau na gwerth am arian ar gyfer gwerth £25m ohonynt.
'Heb gyrraedd y safon'
Ni wnaeth yr adroddiad roi manylion am ba gwmnïau gafodd arian nac i ba bwrpas.
"Dan ni ddim wedi edrych ar y prosiectau eu hunain," meddai Huw Lloyd Jones, "da ni ddim yn barnu pa ddefnydd wnaed efo'r arian hwnnw. Ond be dan ni yn ddeud ydi bod trefniadau ar gyfer dyfarnu'r arian yn annigonol."
Mae swyddfa'r Archwilydd wedi gwneud sawl argymhelliad o ganlyniad i'w hadroddiad ac yn dweud eu bod yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn bositif,
"'Dan ni wedi gwneud nifer o argymhellion yn yr adroddiad; bod angen cryfhau'r system rheolaethol hynny, er mwyn sicrhau gwell trosolwg dros y broses, gwell adolygu fel rhan o'r broses a mwy o her hefyd i benderfyniadau swyddogion unigol.
"Roedd diffyg cofnodi barn, fel bod neb yn gallu cyfiawnhau y penderfyniad a wnaed mewn nifer o achosion."
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "derbyn nad oedd y broses o ystyried gwerth am arian i nifer o brosiectau Cynllun Datblygu Gwledig yn cyrraedd y safon uchaf".
Ychwanegodd y llefarydd bod yr adroddiad yn cynnig "arweiniad defnyddiol" er mwyn gwella'r sefyllfa.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2020
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2017