'Effaith hirdymor' Covid-19 ar y diwydiant dillad
- Cyhoeddwyd
Mae Covid-19 yn mynd i gael effaith hirdymor ar y diwydiant dillad - dyna farn un arbenigwraig ffasiwn union wythnos ers i siopau dillad gael yr hawl i agor.
Yn gyffredinol, dyw siopwyr ddim wedi heidio i'r Stryd Fawr, ond digon cadarnhaol yw'r ymateb ymhlith rhai siopau dillad annibynnol yn Sir Gâr.
Un o siopau amlycaf Castellnewydd Emlyn yw Ededa J. Mae'r drysau bellach ar agor, a'r profiad siopa fel ymhobman arall yn wahanol erbyn hyn.
"Mae pethau yn mynd yn eitha' da, a gweud y gwir," meddai Ffion Thomas.
"Ma' bobol yn falch o weld y sgrinie wrth y cownter, a'r masgiau. Ni'n trio cadw'r niferoedd sy'n dod 'da'i gilydd i lawr."
Mae Ededa J yn arbenigo ym maes dillad priodas, lle mae'n arferiad i deuluoedd ddod gyda'i gilydd i ddewis a dethol dillad ar gyfer y diwrnod mawr.
"Ni arfer cael mam y briodferch a mam y priodfab gyda'r ferch sy'n priodi, felly ni'n medru hala un aelod i ystafell arall, neu lawr llawr i gadw'r niferoedd lawr. A ni'n gwneud yn siŵr fod digon o amser rhwng apwyntiade."
Yn yr adran ddillad cyffredinol, dyw Ffion Thomas ddim yn credu fod pobol yn mynd â chymaint o ddillad ag arfer i'r ystafelloedd newid. Ac mae'r dillad sy'n cael eu rhoi yn ôl heb eu prynu, yn cael eu trin.
"Ni'n rhoi spray fabric disinfectant arnyn nhw, a wedyn ni'n gadael y dillad hynny mewn 'stafell arall am gwpwl o ddiwrnode."
Siopau gwag, heb stoc
Mae angen trefn ac amserlen fanwl wrth redeg siop ddillad bellach oherwydd y cyfyngiadau presennol.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i siopau ailagor union wythnos yn ôl, nid pob un o'r canghennau mawrion sydd wedi agor eu drysau. A gyda thymor ffasiwn yr haf fwy neu lai ar ben, mae rhai siopau yn wag ar hyn o bryd, heb unrhyw stoc.
Yn ôl yr arbenigwraig ffasiwn, Helen Humphreys, dyw hynny ddim yn syndod.
"Yn raddol bach, mae siopau'n agor fesul trefi, ond ma' siope wedi gorfod canslo eu harchebion ar gyfer sgidie a ffrocie haf, y rhai y bydde bobol angen ar gyfer eu gwylie, fel arfer," meddai.
"Mae'r impact yn anferth ar wledydd eraill y tu allan i Brydain hefyd, wrth iddyn nhw golli archebion y bydde'r cwmnïau mawr wedi eu gosod.
"Fi'n credu bod hyn yn mynd i gael effaith hirdymor ar y ffordd ry'n ni'n meddwl am ddillad, achos ry'n ni'n gwbod ni ddim rili angen yr holl bethe ry'n ni yn eu prynu."
Yn perchnogion siop Pethau Olyv yn Sanclêr, Yvonne Griffiths-Rogers ac Olive Bowen, mae yna deimlad fod cwsmeriaid yn magu hyder yn araf bach.
"Ni 'di bod yn eitha bishi," meddai Yvonne. "Pobol leol wrth gwrs, oherwydd y canllawie pum milltir."
Ond mae Olive yn cydnabod fod ychydig o nerfusrwydd.
"Ma' rhai eitha' nyrfys i ddod mas, ond fi'n credu bo' nhw'n teimlo'n bach fwy cyfforddus i ddod i siop fach," meddai.
"Ac ambell waith os nag y'n nhw mo'yn dod yma adeg ma'r siop ar agor, ry'n ni'n rhoi apwyntiad iddyn nhw wedi 4 o'r gloch y p'nawn, ac mae hynny'n adeiladu'r hyder. Ma' nhw'n fwy cyfforddus pan fo neb arall yn y siop."
Dyw ystafelloedd newid Pethau Olyv ddim ar agor am y tro.
"Ma' bobol yn dod mewn a pigo be ma' nhw mo'yn, a wedyn ma nhw'n mynd â fe gatre," meddai Olive. "Ac os nad y'n nhw mo'yn e, ma' nhw'n dod ag e nôl, a wedyn ni'n steam-o nhw a doti nhw gadw am dri diwrnod."
Mae'r ddwy yn siomedig eu bod wedi colli gymaint o sioeau ffasiwn yr haf hwn, yn ogystal â sioeau a'r Eisteddfod Genedlaethol.
"Ni wedi cael gymaint o sbri yn eu gwneud nhw yn y gorffennol, ond dyna ni, mi ddown ni i ben â hi!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2020