Bregusrwydd claf yn 'cynyddu'r risg o farw o Covid-19'
- Cyhoeddwyd
Mae bregusrwydd claf yn ffactor yr un mor bwysig ag oedran neu gyflyrau iechyd blaenorol o ran y risg o farw yn sgil Covid-19, yn ôl ymchwil gan nifer o sefydliadau, yn cynnwys Prifysgol Caerdydd.
Cafodd achosion 1,564 o gleifion ysbyty mewn 10 safle yn y DU ac un yn Yr Eidal eu dadansoddi gan arbenigwyr ym maes gofal geriatrig
Mae'r casgliadau, sydd wedi'u cyhoeddi yng nghyfnodolyn The Lancet Public Health, yn awgrymu cydberthynas rhwng bregusrwydd â'r risg o farw a'r amser y mae claf yn ei dreulio yn yr ysbyty.
Mae hynny, medd yr ymchwilwyr, yn dangos bod asesu pa mor eiddil yw claf yn hanfodol er mwyn llywio penderfyniadau clinigol wrth drin Covid-19.
'Angen newid ffocws'
Dr Jonathan Hewitt o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd oedd prif ymchwilydd a phrif awdur yr astudiaeth.
Dywedodd fod canllawiau'r corff iechyd NICE (National Institute for Clinical Excelllence) yn argymell defnyddio bregusrwydd er mwyn asesu cleifion Covid-19 ers mis Mawrth "ond dydyn ni ddim yn gwybod i ba raddau y mae hyn yn cael ei ddefnyddio yn ymarferol".
"Dylai pob claf sy'n dioddef o Covid-19 gael asesiad o'i fregusrwydd oherwydd rydym yn gwybod bod bregusrwydd - ni waeth beth yw eich oedran neu ba gyflyrau iechyd gwaelodol sydd gennych - yn effeithio ar eich tebygolrwydd o wella o'r afiechyd hwn," dywedodd.
"Hyd yma, y mae'r ffocws wedi bod ar oedran a phroblemau iechyd eraill ond rydym ni'n credu y dylai'r ffocws droi at fregusrwydd er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn triniaeth briodol, wedi'i thargedu."
Mae bregusrwydd yn gyflwr clinigol sy'n cael ei nodweddu gan golled o egni, lles a gwydnwch. Mae'n gadael pobl yn agored i newidiadau sydyn yn eu hiechyd, ac yn cynyddu'r risg o orfod cael triniaeth ysbyty neu ofal tymor hir, neu farwolaeth.
Dywed y dadansoddwyr - yn eu plith, arbenigwyr o sefydliadau addysg ac iechyd yn Llundain, Salford a Bryste - bod modd i feddygon teulu a geriatregwyr gofal sylfaenol asesu bregusrwydd "yn gyflym a diffwdan".
Gall hynny, maen nhw'n dadlau, ddigwydd "fel mater o drefn... hyd yn oed mewn cartrefi gofal, a fyddai'n golygu bod y wybodaeth wrth law pan fydd claf yn cael ei dderbyn i'r ysbyty".
"Gallai ein canfyddiadau newid dealltwriaeth pobl o berygl Covid-19 iddyn nhw'n bersonol," meddai Dr Kathryn McCarthy, un o brif awduron yr astudiaeth a llawfeddyg yn Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Bryste.
"Er enghraifft, gallai pobl iau fod yn fregus ac mewn perygl ond ar ddeall eu bod nhw mewn grŵp risg isel, tra bod pobl hŷn nad ydynt yn fregus yn credu eu bod nhw mewn perygl a bod angen iddynt warchod eu hunain oherwydd eu hoed yn unig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2020