Cynnal Y Sioe Frenhinol ar-lein oherwydd Covid-19

  • Cyhoeddwyd
SioeFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd Sioe Frenhinol Cymru'n cael ei chynnal yn rhithiol oherwydd coronafeirws, medd y trefnwyr.

Mae'r digwyddiad blynyddol fel arfer yn denu bron 250,000 o bobl o 40 gwlad i Lanelwedd ym Mhowys.

Cafodd Sioe eleni ei chanslo ar gost o tua £1.2m, ond mae'r trefnwyr wedi bod yn awyddus i ddathlu'r diwydiant amaeth ar-lein.

Bydd y digwyddiad ar-lein yn dechrau am 20 Gorffennaf, ac yn para am wythnos.

Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Steve Hughson: "Mae'r pandemig yn gorfodi sefydliadau i chwilio am ffyrdd newydd o ymwneud gyda chwsmeriaid a rhanddeiliaid, a dyw'r Sioe yn ddim gwahanol.

"Ry'n ni'n parhau i symud gyda'r amser, ac fe fyddwn yn defnyddio technoleg i addysgu pobl am werth amaethyddiaeth a chynnyrch lleol, rhannu gwybodaeth am ymarfer gorau o fewn amaethyddiaeth, darganfod ffyrdd newydd o ddiddanu ac hefyd rhannu atgofion gan greu llyfrgell hiraethus o hoff rannau pobl o'r Sioe a'u rhesymau am ddod yma.

"Does dim all gymryd lle'r Sioe, ond fe fydd hyn yn gyfle i ddod â phobl at ei gilydd i ddangos ein gwytnwch yn y cyfnod anodd yma."

Nod y digwyddiad yw sicrhau y bydd pob adran o'r Sioe yn cynnig profiad i newydd-ddyfodiaid, a hel atgofion i'r rhai fyddai fel arfer yn treulio'r wythnos yn dathlu amaethyddiaeth yn Llanelwedd.

Y tro diwethaf i'r Sioe Frenhinol gael ei chanslo oedd yn 2001 oherwydd argyfwng clwy'r traed a'r genau.