Beirniadaeth hallt o wasanaeth troseddau ieuenctid Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Youths (generic)Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr adroddiad roedd yna 'bryderon difrifol' am yr uwch arweinyddiaeth

Mae pob agwedd o Wasanaeth Troseddau Ieuenctid Caerdydd wedi cael ei feirniadu gan arolygwyr.

Dywed adroddiad swyddogol fod angen gwella ym mhob maes, gan fod hyn o'r safon isaf ar hyn o bryd.

Yn ôl yr arolygwyr roedd yna "bryderon difrifol" am uwch arweinyddiaeth a strwythur y sefydliad, ac ansawdd gwaith y gwasanaeth wrth ddelio gyda phlant sydd wedi troseddu neu sydd mewn perygl o droseddu.

Roedd yr arolwg yn ymchwilio i feysydd yn cynnwys addysg, iechyd, gofal cymdeithasol a chysylltiad â'r heddlu.

'Ymateb yn galonogol'

Dywedodd y prif arolygydd yn y maes gwasanaeth prawf, Justin Russell fod y "canfyddiadau yn hynod siomedig".

Ond dywedodd ei fod wedi ei galonogi o glywed yr ymateb sydd wedi bod, gan gynnwys penodi cadeirydd newydd i'r bwrdd rheoli.

Yn ôl yr adroddiad roedd:

  • 'pryder difrifol' am yr arweinyddiaeth;

  • diffyg gweledigaeth o ran y rheolwyr, tra bod aelodau'r bwrdd yn ansicr o'u rôl a'u cyfrifoldebau - gyda dealltwriaeth gyfunedig o'r heriau oedd yn wynebu'r plant dan eu goruchwyliaeth;

  • bylchau mewn darpariaeth, gan gynnwys dim swyddog iechyd proffesiynol am 18 mis, a dim gweithiwr addysg am naw mis;

  • rheolwyr wedi cael eu gor-ymestyn fel nad oedden nhw'n gallu goruchwylio eu gwaith yn effeithiol.

Fe wnaeth yr arolygwyr hefyd ganfod fod y risg yr oedd rhai plant yn ei wynebu heb gael ei asesu yn gywir - gan gynnwys y perygl o du gangiau cyffuriau.

Dywedodd Mr Russell: "Mae'r camau sydd wedi eu cymryd ers yr arolwg yn rhoi lle i ni gredu y byddant yn gweithredu ar ein hargymhellion i wella'r gwasanaethau, ond mae yna lot fawr o waith i'w wneud.

"Fe fyddwn ni ac arolygwyr eraill yn monitro'r sefyllfa er mwyn sicrhau eu bod yn cyflwyno'r argymhellion sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad."