'Ti eisiau bod mewn bybl gyda fi?'

  • Cyhoeddwyd
Fflur EvansFfynhonnell y llun, Fflur Evans

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod modd i aelodau dau gartref uno i greu un cartref estynedig, neu "swigen gymdeithasol" fel y mae'n cael ei alw mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, a hynny o ddydd Llun 6 Gorffennaf ymlaen.

Rhyddhad i nifer ohonom, sydd yn cael gweld teulu am y tro cyntaf ers rhai misoedd. Ond mae'n gur pen i Fflur Evans, sy'n wreiddiol o Sir Gâr ond yn byw yng Nghaerdydd, wrth iddi geisio penderfynu pwy fydd yn cael bod yn rhan o'i swigen hi...

Ers misoedd erbyn hyn, ry' ni gyd 'di gorfod byw heb bleserau cyffredin bywyd (pybs, gigs, actually cyffwrdd â bodau dynol eraill, ac yn y blaen).

Mae 'di bod yn anodd, bois bach - bob nos, bron, fi'n treulio oriau yn hel atgofion am weld ffrindiau, am wyliau dramor, ac am fflyrto gyda bechgyn o'n i'n hanner 'nabod o Twitter yn Clwb Ifor Bach (mae clybiau nos eraill ar gael). Dyddiau da… dyddiau da.

Ond, diolch byth, ma' Mark Drakeford wedi clywed fy nghri ac wedi penderfynu ein bod ni'n cael creu 'bybl' gydag un aelwyd arall o ddydd Llun ymlaen.

Sy'n swnio'n gret, ondyw e? Fyddi di'n cael gweld pobl eraill, fydd teuluoedd yn aduno - hollol hyfryd!

Ond wedyn ti'n dechrau meddwl - pwy yffach odw i'n mynd i ddewis?

Mae e'n dipyn o benbleth i'r rheiny ohono' ni sy'n ystyried ein hunain yn social butterflies. Er enghraifft, os wyt ti'n dewis dy gariad dros dy rieni, falle 'newn nhw fynd yn offended a dy dorri di mas o'r ewyllys.

Falle, drwy ddewis dy ffrind gorau dros dy gariad, fydd e'n gorffen 'da ti a phenderfynu creu bybl gyda'r ferch nesa' ma'n gweld ar Tinder!

Felly, rhaid ystyried yr opsiynau yn ofalus...

Ffynhonnell y llun, Fflur Evans
Disgrifiad o’r llun,

Yn mwynhau ar wyliau yn Prague (pan oedd teithio dramor dal yn opsiwn)

Opsiynau, opsiynau

Dy opsiwn cynta' di yw dy gariad, 'falle. (Yn ffodus i fi, galla'i ddistyrru'r opsiwn 'ma'n syth achos mai'r peth agosaf 'sda fi at gariad yw boi deliveries Amazon.)

Dyma'r opsiwn cyntaf i'r nifer ohonoch chi sydd heb weld eich cariadon ers rhyw dri mis, ac o ganlyniad, 'di dechrau ffansio bob un cymeriad ar Rownd a Rownd (hyd yn oed y rhai sy'n ddigon hen i fod yn dadau i chi).

O'r diwedd, dyma gyfle i ail-gynnau'r fflam gyda'th anwylyn - hwrê!

Ar y llaw arall, ti 'di bod yn byw ben dy hunan ers misoedd, a 'di dod i'r arfer â dy rwtîn newydd (bwyta spaghetti bolognese yn syth o'r sosban, gwylio hen benodau o Love Island, a chwympo i gysgu ar y soffa).

Ond 'falle fydd dy gariad di eisiau gwylio'r newyddion, neu eisiau bwyta pryd nad yw'n cynnwys pasta (duw a ŵyr pam, ma' pasta'n anhygoel).

Mae'n bosib fydd hyn yn arwain at gyfres o ddadleuon dwl, oherwydd bod dy gariad di ddim yn deall dy fod di "jyst ishe ffindo mas os yw Olivia'n mynd i ddewis Chris neu Mike yn y re-coupling, a WEDYN gewn ni watcho'r blincin' news, iawn?"

Wedi meddwl, falle ei fod e'n saffach i chi barhau i gynnal eich perthynas dros Zoom. 'Mond hyn a hyn o ddadlau galli di 'neud mewn cyfarfod fideo 40 munud, wedi'r cyfan.

Ffynhonnell y llun, Fflur Evans
Disgrifiad o’r llun,

Amser da yn Tafwyl y llynedd, pan oedd eich bybl yn gallu bod llawer mwy

Y manteision a'r anfanteision

Iawn, beth am ystyried opsiwn rhif dau: good ol' Mam a Dad.

Y manteision fan hyn, i fi'n bersonol, yw bod Mam a Dad newydd brynu hot tub i'r ardd, a fel rhywun sy'n byw mewn fflat bach ar y llawr cynta, ma' hwn yn big deal.

'Sdim gardd da fi, yn amlwg, felly 'sdim modd i fi gael barbeciw neu dorheulo (os ddaw'r haf nôl i Gymru rhywbryd cyn bo' hir, hynny yw), so fydde mynd nôl i weld fy nheulu yn syniad penigamp.

(Hefyd, os chi'n darllen, Mam a Dad, fi'n addo mai nid yr hot tub yw 'mhrif rheswm dros eich dewis chi, ond achos bo chi'n bobl hyfryd a bo' fi'n gweld eisiau chi gymaint. A hefyd achos bod steak in peppercorn sauce Dad yn amazing.)

Ond, yr anfantais o ddewis dy rieni yw'r perygl 'nei di droi nôl mewn i'r moody teenager fues di rhyw ddeng mlynedd ynghynt, yn stompan rownd y tŷ yn gweiddi, "MAAAM, TI HEB OLCHI MESH TOP FI A O'N I ISHE GWISGO FE AM Y ZOOM PARTY HENO, FOR GOODNESS' SAKE!"

Ac ar ôl i ti fynd nôl i dy fflat am bach o lonydd, fyddi di'n difaru'th enaid dy fod di heb ddewis creu bybl gyda dy fêts coleg di.

Tra bo' nhw 'di bod yn chware Mariokart ac yfed cocktails drwy'r dydd, ti 'di gorfod eistedd wrth y bwrdd bwyd, yn gwrando ar dy fam yn adrodd stori am conservatory newydd Anti Linda am y seithfed tro ("sdim planning permission da 'ddi, cofia, sai'mod shwd mai 'di cal getaway 'dag e!").

Felly bobl, dewiswch yn ddoeth, achos wedi i chi benderfynu, fyddwch chi methu dewis eto.

Ac os yw'ch bybl chi'n byrstio, fyddwch chi back to square one, yn gwisgo pyjamas erbyn 18:30, yn glafoerio dros Phillip Rownd a Rownd, a'n llefen dros sosban o spag bol.

Hefyd o ddiddordeb: