Is-Ganghellor wedi torri rheolau cyfnod clo
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Dr Maria Hinfelaar dorri rheolau'r cyfnod clo
Mae is-ganghellor prifysgol yn y gogledd wedi ymddiheuro "yn ddiamod" am deithio i'w thŷ gwyliau yn Iwerddon yn ystod y cyfnod clo.
Dywedodd yr Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr ers 2016, fod y daith wedi bod yn gamgymeriad.
Yn wreiddiol, dywedodd ei bod dan yr argraff fod ei thaith chwe niwrnod i Shannon yn Swydd Clare ar 8 Ebrill "o fewn y rheolau".
"Ond o edrych yn ôl rwy'n derbyn fod hyn wedi bod yn gamgymeriad," meddai.


Hwn yw'r trydydd datganiad iddi wneud am y daith - taith a wnaeth pythefnos a hanner ar ôl i bobl Cymru gael gorchymyn i aros adref i rwystro'r haint rhag lledaenu.
Roedd pobl yn wynebu dirwy o hyd at £60 am dorri'r rheolau.
Yn flaenorol roedd yr Athro Hinfelaar wedi dweud ei bod yn ystyried y daith yn "un hanfodol ac yn un oedd yn cael ei chaniatáu o fewn y rheolau."
Daeth ei datganiad mwyaf diweddar ar ôl i'r BBC ofyn a oedd bwrdd rheoli'r brifysgol yn ymwybodol o'r daith.
Atebodd yr Athro Hinfelaar drwy ddweud: "Rwyf wedi rhoi gwybod i'r bwrdd llywodraethol.
"Roeddwn yn meddwl fod y daith o fewn y rheolau, ond o edrych yn ôl rwy'n derbyn fod hyn yn gamgymeriad ac yn ymddiheuro yn ddiamod."
Daeth ei thaith i Shannon i'r amlwg ar ôl i rywun ei gweld yno a chysylltu gyda'r BBC.
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol: "Bydd unrhyw drafodaethau pellach ynglŷn â'r mater yn cael eu cynnal yn fewnol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2017