Canfod gwerth £6m o gyffuriau mewn cyrchoedd heddlu
- Cyhoeddwyd
Mae gwerth dros £6m o gyffuriau wedi eu darganfod mewn cyrchoedd ledled Cymru fel rhan o'r ymgyrch gwrthgyffuriau fwyaf erioed gan yr Asiantaeth Droseddu Genedlaethol (NCA).
Roedd pob un o heddluoedd Cymru yn rhan o ymgyrch - Operation Venetic - oedd yn ymestyn ar draws Ewrop, i geisio mynd i'r afael â gangiau sy'n trefnu troseddau.
Fe gafodd swyddogion hyd i dros £2m o arian hefyd yn ystod y cyrchoedd yng Nghymru.
Roedd heddluoedd drwy Brydain yn rhan o'r ymgyrch ac fe ledaenodd yr ymchwiliad i rannau o Ewrop.
System gyfathrebu gudd
Cafodd 40 o bobol eu harestio yng Nghaerdydd, Casnewydd a'r cymoedd, gan swyddogion o uned Tarian, sy'n cynnwys heddluoedd Dyfed-Powys, Gwent a De Cymru.
Roedd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar system gyfathrebu gudd, Encrochat, oedd yn cael ei ddefnyddio gan gangiau troseddol i gysylltu â'i gilydd ac i drefnu troseddau difrifol.
Llwyddodd yr NCA i dorri côd y system, fel eu bod yn gallu gwrando a gweld negeseuon heb yn wybod i'r troseddwyr.
Cafodd 700 o bobl eu harestio o ganlyniad i'r ymgyrch, yn cynnwys rhai oedd yn credu eu bod uwchlaw'r gyfraith a cafodd rhwydweithiau troseddol cyfan eu chwalu.
Ymgyrch arwyddocâol
Mae'r NCA yn dweud bod 77 o ddrylliau, dros ddwy dunnell o gyffuriau, a £54m o arian wedi cael ei gipio yn ystod "yr ymgyrch fwyaf a'r mwyaf arwyddocâol" i gael ei chynnal yn y DU.
Maen nhw'n dweud bod swyddogion wedi atal rhai pobl rhag cael eu "llofruddio" ac wedi ymyrryd mewn 200 o achosion o "fygwth bywyd" ar ôl monitro cynlluniau i ymosod ar y gwasanaeth cysylltu cudd.
Roedd Heddlu'r Gogledd yn gweithio ar yr ymgyrch gydag uned Titan sy'n gweithio gyda Heddlu Glannau Mersi ac eraill yng ngogledd orllewin Lloegr.
Dywedodd y Ditectif Brif-Uwch Arolygydd Wayne Jones o Heddlu Gogledd Cymru: "Chwaraeodd swyddogion a staff Heddlu Gogledd Cymru ran allweddol yn cefnogi Operation Venetic, yn gweithio gyda chydweithwyr yn Uned Droseddau Ranbarthol y gogledd orllewin ac yn yr NCA," meddai.
"Ers nifer o wythnosau rydym wedi derbyn gwybodaeth sydd wedi ein galluogi i gynnal ymgyrchoedd wedi eu targedu tuag grwpiau troseddau cyfundrefnol (organised crime groups) oedd yn gweithredu yng ngogledd Cymru.
"Rydym wedi cipio cyffuriau Dosbarth A o burdeb uchel ac wedi arestio nifer o bobl.
"Torri'r system gyfathrebu gudd oedd y man cychwyn mewn gweithredoedd pellach y byddwn yn eu cymryd i arestio'r rhai sy'n cyflawni troseddau yng ngogledd Cymru.
"Rydym wedi casglu rhagor o dystiolaeth i mewn i weithredoedd troseddol, ac fe fyddwn yn ei ddefnyddio mewn ymgyrchoedd pellach gyda rhagor o arestiadau a chipio asedau troseddol i ddod."