Portreadu ysbryd cymunedol Caerdydd mewn pandemig
- Cyhoeddwyd
Mae 'na arddangosfa newydd ar hyd strydoedd Caerdydd sy'n ceisio cloriannu sut mae cymunedau wedi dod at ei gilydd dan amgylchiadau'r cyfnod clo.
O blith dros 100 o enwebiadau, mae portread o 10 gwirfoddolwr lleol wedi cael eu gosod ar hyd ganol y brifddinas.
Yn eu plith mae Dafydd Trystan, arweinydd cynllun gwirfoddoli yn Grangetown.
"Mae e'n eithaf rhyfedd ar un olwg, dwi'n edrych ar fy hun tu cefn i fi ac mae hwnna'n deimlad bach yn rhyfedd," meddai wrth raglen Newyddion S4C.
"Ond dwi yn falch iawn, nid i fi cymaint, ond i'r holl bobl sydd wedi bod yn rhan o'r prosiect.
"Mae 'na 173 o wirfoddolwyr wedi bod gyda ni yn helpu pobl yn Grangetown, ac i nhw mae'r gydnabyddiaeth yma, yn llawn gymaint ag yw e i fi.
"Mae pobl wedi dod at ei gilydd, mae pobl wedi wynebu argyfwng ac mae'n rhoi rhyw faint o hyder i fi, yn y sefyllfa pur erchyll hwn, mae pobl wedi dod at ei gilydd a helpu ei gilydd."
Mae'r prosiect wedi'i gydlynu gan gwmni FOR CARDIFF.
"Wnaethon ni benderfynu gweithio efo Nythan Wyburn o Gaerdydd i greu y darluniau yma," meddai Manon Eyton, llefarydd ar ran y cwmni.
"Mae Nathan yn adnabyddus ar draws y byd am greu darluniau o bobl adnabyddus, yn bennaf allan o ddeunyddiau gallwch chi ffeindio yn y tŷ, fel sôs coch, neu goffi a siocled... rhai o'r esiamplau sydd wedi cael eu defnyddio ar gyfer yr arwyr hyn.
"O fewn wythnos, gafon ni dros gant o enwebiadau ac roedd o'n andros o job fynd trwyddyn nhw i gyd, i ddewis dim ond deg.
"Rydan ni'n mynd i fod yn rhannu'r enwebiadau ac mae'r wybodaeth ry'n ni wedi casglu drwy hynny yn mynd i gael ei rhannu gyda'r amgueddfa i gael cofnod o sut mae pobl wedi ymateb yn ystod y pandemig."