Bwriad i gau cartref gofal Pwyliaid Penrhos ger Pwllheli

  • Cyhoeddwyd
Cartref Pwyliaid Penrhos, ger PwllheliFfynhonnell y llun, Google

Bydd cartref gofal gafodd ei sefydlu ar gyfer pobl o Wlad Pwyl ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn cau yn y misoedd nesaf.

Mae perchnogion Cartref Pwyliaid Penrhos, ger Pwllheli, yn dweud mai'r gobaith yw trosglwyddo'r safle i Gymdeithas Dai Clwyd Alyn.

Ond byddai cau'r cartref - sy'n cael ei reoli gan gymdeithas dai y Polish Housing Society (PHS) - yn ergyd drom i'r ardal gyfan, yn ôl un cynghorydd lleol.

Mae 70 o bobl yn byw mewn fflatiau ac unedau pwrpasol ar y safle, sydd hefyd yn cynnig gofal nyrsio.

Cafodd y cartref ei sefydlu ar hen orsaf y Llu Awyr ym Mhenrhos ym 1949, i gynnig llety a chefnogaeth i Bwyliaid a ddewisodd aros yn y DU ar ôl y rhyfel.

Dros y blynyddoedd cafodd yr hen farics pren eu disodli gan adeiladau mwy addas ar gyfer yr henoed.

Mae gan y cartref eglwys, llyfrgell, ystafelloedd cyffredin, siop, a rhandiroedd garddio ar gyfer y bobl sy'n byw yno.

Ffynhonnell y llun, Eric Hall/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Neuadd Penrhos ar dir y cartref ger Pwllheli

Dywedodd y cynghorydd sir lleol, Angela Russell, y byddai cau'r cartref yn golled enfawr i ardal Llŷn, ac y byddai'n ymgyrchu gydag eraill i geisio'i achub.

"Mae 'na amryw o bobl efo teuluoedd yma, wedi bod yma ac isio dod yma eto yn y dyfodol," meddai ar y Post Cyntaf fore Mawrth.

Ychwanegodd y byddai pobl oedrannus yn gorfod teithio yn bellach i weld eu gŵyr neu wragedd os bydd y cartref yn cau a chael mwy nag un bws am fod yr un agosaf meddai yng Nghricieth.

"Y polisïau ydy bod ni yn cadw gofal yn agos i adra. Dydy hynny ddim yn gweithio achos da ni yn gorfod mynd yn bell.

"Pan mae gennach chi rhywun mewn oed yn y cartref chances ydy bod o'n ŵr neu wraig ac mae'r rheini mewn oedran mawr hefyd."

Dywedodd Kasia Rafalat, aelod o fwrdd rheoli'r PHS eu bod wedi penderfynu cau'r cartref yn dilyn "cyfnod hir o ansicrwydd ariannol".

"Ar ôl edrych ar yr holl opsiynau, rydym yn gresynu'n fawr ein bod yn gorfod cymryd y penderfyniad i gau cartref nyrsio Penrhos yn raddol," meddai.

"Ein bwriad bob amser oedd diogelu lles a iechyd y preswylwyr a'r staff, a gofalu bod eu hanghenion yn cael eu gwarchod i'r dyfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorydd sir lleol, Angela Russell, yn bwriadu ymgyrchu i achub y cartref.

"Mae cefnogaeth ariannol gan Gyngor Gwynedd yn golygu na fydd rhaid cau'r cartref yn syth, a gallai aros ar agor tan fis Mawrth 2021, ac yn y cyfamser bydd y preswylwyr a'u teuluoedd yn gallu cytuno ar yr opsiynau gorau ar eu cyfer."

'Cau yn raddol'

Dywedodd Liz Saville Roberts, AS Dwyfor Meirionnydd, ei bod eisoes wedi bod mewn cysylltiad â'r rheolwyr a chyrff eraill perthnasol "i geisio sicrhau bod anghenion y preswylwyr yn cael eu diwallu, a bod pryderon teuluoedd yn cael sylw ar yr amser anodd ac ansicr yma".

"Gyda 31 o welyau nyrsio ac 11 o welyau preswyl, mae'n hanfodol bod pob opsiwn yn cael ei ystyried er mwyn dod o hyd i ddarpariaeth amgen addas mewn da bryd, sy'n diwallu anghenion gofal y preswylwyr.

"Rhaid i ni hefyd fod yn effro i'r pwysau cynyddol ar ddarparwyr gofal lleol a'r angen i ddiogelu gwelyau nyrsio mewn cymunedau gwasgaredig, gwledig fel Pen Llŷn."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Fel Cyngor, rydym yn gweithio i geisio sefydlu pecyn cymorth ar y cyd a fyddai'n sicrhau fod preswylwyr y cartref yn parhau i dderbyn y gofal maent ei angen, gan roi amser iddyn nhw, eu teuluoedd, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ymateb i'r sefyllfa ac adnabod opsiynau amgen fydd yn cwrdd â'u anghenion gofal a/neu nyrsio.

"Rydym yn ystyried cynlluniau hir-dymor posib ar gyfer dyfodol y safle gyda PHS, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cymdeithas Dai Clwyd Alyn a phartneriaid eraill posib.

"Mae safle PHS ym Mhenrhos hefyd yn cynnwys 63 o unedau gofal gwarchod. Ni fydd penderfyniad PHS i fwrw ymlaen i gau eu cartref gofal yn raddol yn cael effaith ar yr unedau yma."

Hefyd gan y BBC